A470 ym Methyr Tudful wedi cau ar ôl i gar adael y ffordd

  • 28 Chwefror 2013

Mae'r A470 ger Merthyr Tudful wedi cau i'r ddau gyfeiriad er mwyn i Ambiwlas Awyr lanio wedi damwain ddifrifol.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod car Renault Clio wedi gadael y ffordd ac wedi taro coeden ar y lon ddeheuol ger cylchfan Pentrebach.

Cafodd Gwasanaeth Tân a De Cymru eu galw i'r digwyddiad tua 3.40pm.

Does 'na ddim mwy o fanylion ar hyn o bryd.