Arddangos gwaith y chwarelwr John Neville Foulkes

28 Chwefror 2013 Diweddarwyd 10:37 GMT

Mae gwaith John Neville Foulkes, chwarelwr a drodd ei law at gelf, yn cael ei ddathlu mewn arddangosfa newydd yng Ngwynedd.
Strike gan John Neville Foulkes, © stad Neville Foulkes
Mae arddangosfa newydd yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Gwynedd, fydd yn agor ar 28 Chweforor, yn edrych ar waith yr artist a chwarelwr John Neville Foulkes
Charlotte Street gan John Neville Foulkes, © stad Neville Foulkes
Ganed Neville Foulkes yn Llanberis, Gwynedd, yn 1937. Ar ôl gadael ysgol dechreuodd weithio fel chwarelwr yn chwarel lechi Dinorwig.
Quarrymen gan John Neville Foulkes, © stad Neville Foulkes
Wedi cyfnod gyda'r lluoedd arfog yng ngogledd Affrica dychwelodd adref ac aeth yn ôl i weithio yn chwarel Dinorwig.
Skill gan John Neville Foulkes, © stad Neville Foulkes
Cafodd ei amser yn y chwarel effaith mawr ar ei feddyliau a'i syniadau - mae sawl un o'u luniau dangos dynion yn gweithio gyda'i dwylo.
Blaster gan John Neville Foulkes, © stad Neville Foulkes
Roedd hefyd yn ysgrifennu barddoniaeth. Thema gyson yn ei ysgrifennu yw ei hiraeth am y chwarel a'r gymuned a chwaraeodd rhan mor hanfodol yn ei fywyd.
Fright gan John Neville Foulkes, © stad Neville Foulkes
Mae ei baentiadau hefyd yn darlunio ochr dywyll gweithio yn y chwarel, gan fynegi peryglon y gwaith.
Quarryman gan John Neville Foulkes, © stad Neville Foulkes
Dywedodd yr artist John Meirion Morris, oedd yn ffrind i Foulkes a fu farw yn 1997, ei bod yn "artist sensitif sydd yn meddu ar ffordd unigryw o fynegi ei ofnau a'i obeithion".
Snow gan John Neville Foulkes, © stad Neville Foulkes
Mae mynediad i'r arddangosfa yn rhad ac am ddim a bydd yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis o 28 Chwefror tan 30 Mehefin 2013.