Ewrop: Cymru wedi'i rhannu'n ddwy

  • 27 Chwefror 2013

Mae pleidleiswyr yng Nghymru wedi'u rhannu'n ddwy garfan o ran dyfodol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd yn ôl arolwg barn a gomisiynwyd gan BBC Cymru.

Mae mwyafrif bychan wedi dweud eu bod yn meddwl y byddai'n well i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Daw canlyniad yr arolwg yn dilyn cynnig Prif Weinidog y DU, David Cameron, i gynnal refferendwm ar ddyfodol y DU yn yr UE pe bai'r Ceidwadwyr yn ennill yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fydd ym Mrwsel ddydd Iau, wedi dweud bod Cymru'n elwa o bresenoldeb y DU yn yr UE.

'Ansefydlogrwydd'

Yn ôl yr arolwg roedd 49% o'r bobl gafodd eu holi'n meddwl, rhwng popeth, y byddai'n well pe na bai'r DU yn rhan o'r UE.

Ond dywedodd 45% ohonynt, at ei gilydd, fod y DU yn elwa o'i phresenoldeb yn yr UE.

Dywedodd 5% ohonynt nad oeddent yn gwybod yr un ffordd neu'r llall.

Lwfans cyfeiliornad yr arolwg oedd +/-3.2%.

Brwsel
Bydd Mr Jones yn cynnal derbyniad i hybu bwyd Cymreig ym Mrwsel ddydd Iau.

Mae Mr Jones wedi dweud y bydd ansicrwydd ynghylch y rhan mae'r DU yn chwarae yn Ewrop yn achosi "ansefydlogrwydd" gan godi ofn ar fuddsoddwyr posib i Gymru.

Cafodd y penderfyniad i dorri cyllideb yr UE tan 2020 hefyd ei feirniadu gan Mr Jones.

Dywedodd ei fod yn "annheg iawn" i ardaloedd tlotaf Gorllewin Cymru a'r Cymoedd sydd wedi derbyn biliynau o bunnoedd o gymorth ariannol gan yr UE.

'Camgymeriad mawr'

Yn ôl Elin Royles o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn Aberystwyth y gred yn y gorffennol oedd bod pobl yng Nghymru a'r Alban yn fwy cefnogol o'r UE na gweddill y DU.

"Dyw hyn ddim mor wir ag yr oedden ni'n meddwl," meddai.

Ychwanegodd fod daliadau ewro-sgeptig "sy'n dylanwadu ar ein cymunedau" yn llawer ehangach na'r disgwyl.

"Mae angen llawer mwy o waith i wella ein dealltwriaeth o beth mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei olygu..."

Bydd Mr Jones yn cynnal derbyniad i hybu bwyd Cymreig ym Mrwsel ddydd Iau.

Guto Bebb
Dywedodd Guto Bebb ei fod yn angenrheidiol i Ewrop newid yn sylfaenol

Dywedodd: "Does dim modd gorbwysleisio pwysigrwydd y ffaith bod y DU yn yr UE.

"Mae'n agor drysau i'r farchnad sengl fwyaf yn y byd ac mae'n ganolog i'r hyn allwn ni ei gynnig i fewnfuddsoddwyr.

"O gofio'r pryderon sy'n parhau am gyflwr yr economi fyd eang, mae unrhyw beth sy'n peryglu'r aelodaeth honno yn gamgymeriad mawr.

"Rwyf am i Gymru fwynhau perthynas gref a chadarnhaol gyda'r UE sy'n rhoi budd i ni i gyd."

'Dweud cyfrolau'

Dywedodd Guto Bebb, AS Ceidwadol Aberconwy, y dylai'r DU aros yn yr UE ond bydd yn rhaid newid y modd y mai'r undeb yn gweithredu.

"Mae pawb yn gwybod nad yw Ewrop yn gweithio ar hyn o bryd," meddai.

Mae'r ffaith fod gymaint o bobl yng Nghymru yn meddwl y byddai'n well i'r DU fod y tu allan i'r UE "yn dweud cyfrolau am fethiant y system Ewropeaidd.

"Felly mae'n angenrheidiol i Ewrop newid yn sylfaenol fel ein bod yn gallu cynnig y newidiadau hyn i bobl Prydain fel syniad o sut y dylai Ewrop weithio a sut y dylai'r berthynas rhwng Cymru, Prydain ac Ewrop weithio yn y dyfodol."

Dywedodd David Hughes, Pennaeth Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru: "Llywodraeth Prydain a'r bobl ddylai benderfynu'r dull orau o ran safle'r DU yn yr UE.

"Mae'r comisiwn yn croesawu datganiad clir y Prif Weinidog ei fod am i Brydain aros yn yr UE."

Fe wnaeth ICM gysylltu â 1,000 o oedolion yng Nghymru ar y ffôn rhwng Chwefror 20 a 25.