Dau wedi'u cyhuddo o lofruddio nain

  • 27 Chwefror 2013
Police investigation in Bryn Hafod, Wrexham
Cafwyd hyd i gorff Ms Solmaz yn Wrecsam fore Mercher

Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dynes 65 oed yn ei chartre' yn Wrecsam.

Cafodd Alexandros Weatherill, 23, a Christopher Curran, 34, ill dau eu cyhuddo o lofruddiaeth ac o gynllwynio i ladrata.

Cafodd corff Glynis Solmaz ei ddarganfod ar Chwefror 20 ar stad Parc Caia, ble roedd hi'n byw ar ei phen ei hun.

Mae dau ddyn arall hefyd wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i ladrata.

Bydd y pedwar yn ymddangos o flaen ynadon yn Wrecsam yn ddiweddarach.