Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Mwy o briodasau ffug yn cael eu cynnal

26 Chwefror 2013 Diweddarwyd 21:06 GMT

Mae ymchwiliad cudd gan BBC Cymru wedi datgelu bod mwy a mwy o briodasau ffug yn cael eu cynnal fel rhan o dwyll gan bobl sydd eisiau cael fisa i aros ym Mhrydain. Daeth rhaglen Week in Week Out o hyd i grŵp yng Nghaerdydd sy'n gwerthu dynion a merched fel gŵyr a gwragedd. Mae'r Asiantaeth Ffiniau yn dweud eu bod nhw'n cael eu galw i Gymru yn fisol i ymchwilio i briodasau amheus. Adroddiad Nia Tudur.