Abertawe'n creu hanes yn Wembley

  • 24 Chwefror 2013
Image copyright PA
Image caption Roedd cefnogwyr Abertawe ar ben eu digon yn Wembley

Abertawe 5-0 Bradford City

Abertawe yw'r clwb cyntaf o Gymru i gipio Cwpan y Gynghrair yn Wembley.

Yr Elyrch oedd yn fuddugol yn rownd derfynol Cwpan Capital One yn erbyn Bradford City er mwyn dod â Chwpan y Gynghrair i Gymru am y tro cyntaf.

Does dim amheuaeth mai Abertawe oedd y ffefrynnau i godi'r gwpan - roedd y tîm o'r Uwchgynghrair yn wynebu tîm o adran dau, sef pedwaredd lefel pêl-droed Lloegr.

Ond roedd Bradford eisoes wedi curo tri thîm o'r Uwchgynghrair ar eu taith i gyrraedd Wembley, ac roedd y rheolwr Michael Laudrup wedi rhybuddio'i chwaraewyr rhag ymlacio.

Bargen

Image copyright PA
Image caption Daeth y cefnogwyr yn eu miloedd i gefnogi'r Elyrch yn Wembley

Yn ôl y gwybodusion yr ymosodwr o Sbaen, Michu, yw'r fargen orau yn y farchnad drosglwyddo ers blynyddoedd lawer, ac fe brofodd ei werth i Abertawe yn yr hanner cyntaf.

Wedi chwarter awr o chwarae, llwyddodd Michu i danio ergyd oedd yn mynd am gornel y rhwyd - er i Matt Duke, golwr Bradford, arbed y cynnig dim ond llwyddo i wthio'r bêl i lwybr Nathan Dyer a wnaeth.

Bachodd Dyer ar y cyfle i rwydo, ac fe ddechreuodd y canu ymhlith y Cymry oedd wedi gwneud y daith i Wembley.

Cyn yr egwyl, cododd lefel y sŵn yn uwch fyth pan sgoriodd Abertawe un arall.

Derbyniodd Michu'r bêl ar ymyl y cwrt cosbi wedi 40 munud. Doedd hi ddim yn ymddangos fod ganddo le i danio ergyd, ond rywsut daeth y Sbaenwr o hyd i gornel isa'r rhwyd i'w gwneud hi'n 2-0 i'r Elyrch ar yr egwyl.

Ffugio

Fe chwaraeodd Michu ei ran yn y drydedd gôl heb gyffwrdd â'r bêl.

Dim ond dau funud o'r ail hanner oedd wedi eu chwarae pan arweiniodd cyd-chwarae hyfryd rhwng Dyer a Wayne Routledge at gyfle arall.

Daeth pas Routledge at Michu ond fe ffugiodd y Sbaenwr gan adael i'r bêl gyrraedd Dyer, ac fe rwydodd i'r gornel i'w gwneud hi'n 3-0.

Y fuddugoliaeth fwyaf erioed yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair oedd pan gurodd Manchester United o 4-0 yn erbyn Wigan yn 2006.

Daeth Abertawe'n gyfartal â'r record honno cyn pen awr pan ddaeth cyfle o'r smotyn.

Y golwr Matt Duke oedd y troseddwr, ac i wneud pethau'n waeth i Bradford, fe welodd Duke y cerdyn coch am y drosedd.

De Guzman ei hun gododd a rhwydo'n ddidrafferth i'w gwneud hi'n 4-0, ac roedd tasg deg dyn Bradford yn un enfawr.

Roedd ymdrech Bradford yn arwrol, a'u cefnogwyr yn haeddu clod am eu cyfraniad i'r diwrnod.

Ond Abertawe aeth â hi yn haeddiannol, ac fe ychwanegodd De Guzman ei ail yn y gêm yn yr amser ychwanegol, gan gipio'r record wrth wneud.

Yr Elyrch nawr fydd y clwb cyntaf erioed o Gymru i gynrychioli Lloegr yng nghystadlaethau Ewrop, gan gymhwyso i chwarae yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf.

Straeon perthnasol