Torïaid: 'Cyflogau uwch - llai o dreth'

Andrew RT Davies Image copyright PA
Image caption Andrew RT Davies: Byddai lleihau'r dreth yn dangos fod Cymru "yn agored i fusnes"

Dylai pobl sy'n ennill cyflogau uwch dalu llai o dreth dros dro os fydd pwerau trethu'n cael eu datganoli i'r Cynulliad, medd arweinwyr y Ceidwadwyr yn y Senedd.

Mae Andrew RT Davies yn credu y dylid lleihau'r raddfa o 40% - sy'n cael ei dalu gan 89,000 o bobl yng Nghymru - er mwyn annog entrepreneuriaeth.

Nid yw'r Ceidwadwyr wedi dweud faint y dylid cwtogi'r dreth, nac am ba hyd.

Byddai torri'r dreth o un geiniog yn y bunt yn costio rhwng £12 miliwn ac £16 miliwn y flwyddyn.

Bydd Mr Davies yn datgelu'r syniad mewn araith yng Nghaerdydd ddydd Llun, ac mae'n dod wrth i'r pleidiau yng Nghymru ddechrau datblygu strategaethau a pholisïau trethu am y tro cyntaf.

Mae Comisiwn Silk wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gael pwerau i amrywio treth incwm erbyn 2020, ac mae'r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi argymell torri'r raddfa sylfaenol o dreth incwm o 20% i 18%.

'Menter'

Mae disgwyl i Mr Davies ddweud: "Mae treth yn un o'r arfau pwysicaf sydd gan unrhyw lywodraeth.

"Gan mai treth incwm yw'r dreth bwysicaf, byddai datganoli hynny fel y mae'r comisiwn annibynnol yn ei argymell, yn gam hollbwysig.

"Os fydd rhai elfennau o dreth incwm yn cael eu datganoli, fe fyddai'n angenrheidiol yn fy marn i i ystyried cyfnod o leihau'r dreth i'r entrepreneuriaid boed hynny yn y sector preifat neu gyhoeddus - sef y rhai sy'n talu'r raddfa o 40%.

"Byddai hyn nid yn unig yn rhoi arwydd cryf i fusnesau yn ardaloedd eraill y DU, ond yn dangos yn glir bod Cymru yn agored i fusnes."

Ym mis Tachwedd, galwodd adroddiad gan Gomisiwn Silk am refferendwm i ganiatáu i Lywodraeth Cymru gael amrywio treth incwm erbyn 2020.

Byddai'r newid yma yn golygu y byddai Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am godi tua chwarter o'i chyllideb ei hun.

Ar y pryd dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones nad oedd Llywodraeth Cymru am gael y pŵer i amrywio trethi er mwyn eu codi nhw.

Dywedodd: "Holl bwrpas datganoli pwerau trethu yw nid i'w codi nhw, ond ar adegau i'r lleihau yn ogystal."

'Gwleidyddiaeth anghyfrifol'

Mewn ymateb i sylwadau'r Ceidwadwyr dywedodd Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru, na allai amseru'r cyhoeddiad hwn ddim bod wedi bod yn waeth.

"Gwleidyddiaeth anghyfrifol yw'r cyhoeddiad, ac mae'n dangos, fel yr amlygwyd gan yr arolwg barn yr wythnos ddiwethaf, pam nad yw pobl yng Nghymru yn ymddiried yn y Ceidwadwyr.

"Os yw'r Ceidwadwyr eisiau helpu busnesau Cymru, yna nid yw'r cyhoeddiad hwn wedi ei anelu at y targed iawn. Byddai eu cynnig hwn yn y bôn yn helpu pobl sydd eisoes mewn swyddi saff sy'n talu'n dda yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

"Ni fyddai'n gwneud dim i gefnogi cychwyn busnesau na chwmnïau yn y cyfnod cynnar - y bobl y dylem fod yn eu cynnal i greu swyddi da fydd yn para."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw'r syniadau yma yn egluro o ble y bydd yr arian yn cael ei ganfod.

"Dydyn nhw ddim wedi manyli ar y gwasanaethau y byddan nhw'n eu torri er mwyn hyn.

"Rydym yn credu ei bod yn rhy fuan i ddatblygu unrhyw bolisïau torri trethi pan nad ydi Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi a fyddan nhw'n datganoli pwerau trethi i Gymru."

Straeon perthnasol