Tân: Un person yn yr ysbyty

  • 22 Chwefror 2013

Cafodd un person eu cludo i'r ysbyty yn dilyn tân mewn fflat yn Y Rhyl fore Gwener.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r eiddo yn Water Street am 4:30am.

Credir bod y tân wedi cynnau wedi i ddillad gael eu gadael yn rhy agos i wresogydd.

Achoswyd difrod i beiriant golchi ac ystafell 'molchi ac roedd difrod gan fwg i'r fflat i gyd.

Fe gafodd un person driniaeth yn yr ysbyty am effeithiau anadlu mwg.