Jenkins i ailymuno â'r Gleision

  • 22 Chwefror 2013
Gethin Jenkins
Gadawodd Gethin Jenlins am Toulon ar ddiwedd y tymor diwethaf

Mae rhanbarth y Gleision wedi cadarnhau y bydd y prop Gethin Jenkins yn ailymuno â nhw o Toulon ar gyfer y tymor nesaf.

Gadawodd Jenkins, 32 oed, am Ffrainc ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Bydd seren Cymru a'r Llewod yn ymuno gydag aelod arall o'r rheng flaen, Matthew Rees, sydd hefyd wedi arwyddo cytundeb gyda'r Gleision.

"Rwy'n falch iawn o fod wedi ail-arwyddo Gethin," meddai cyfarwyddwr rygbi'r Gleision, Phil Davies.