Seiclo: Aur ac efydd arall i'r Cymry

Elinor Barker
Roedd Elinor Barker yn rhan o dîm Prydain yn y ras ymlid i ferched yn Minsk

Mae dwy Gymraes wedi ennill medalau ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac y Byd yn Minsk, Belarws.

Yn gynharach ddydd Iau, enillodd Becky James o'r Fenni ei hail fedal efydd yn y prawf amser dros 500m.

Enillodd fedal efydd hefyd yn y ras wibio i dimau ddydd Mercher.

James oedd y cyntaf i gystadlu, gan osod amser o 34.133 eiliad i'r gweddill, ac roedd ar y blaen tan i Lee Wai Sze o Hong Kong gael ei thro yn ddegfed o'r 12 cystadleuydd.

Roedd amser Lee o 33.973 yn ddigon am yr aur, ac fe ddaeth yr Almaenes Miriam Welte i mewn gydag amser o 33.996 i gipio'r fedal arian fel yr olaf i gystadlu.

Ond roedd gwell i ddod i Gymru wrth i Elinor Barker o Gaerdydd ennill y fedal aur yn y ras ymlid i dîm merched Prydain.

Roedd Barker, sy'n 18 oed, yn rhan o'r tîm a gurodd Awstralia yn y rownd derfynol ar ail ddiwrnod y bencampwriaeth.