Marwolaeth Richard III: Tystiolaeth cerdd yn allweddol

Ailgreu wyneb Rhisiart III a llun ohono o'r bymthegfed ganrif Image copyright PA
Image caption Ailgreu wyneb Richard III a llun ohono o'r bymthegfed ganrif

Mae academyddion Prifysgol Cymru wedi cysylltu â Phrifysgol Caerlŷr i gynnig tystiolaeth ychwanegol gan un o feirdd y bymthegfed ganrif am sut y bu farw'r Brenin Richard III.

Yn ôl yr Athro Dafydd Johnston, mae disgrifiad y bardd Guto'r Glyn o farwolaeth y brenin yn cydfynd â'r anafiadau gafodd eu darganfod ar ei benglog.

Daeth cadarnhad oddi wrth academyddion Prifysgol Caerlŷr yr wythnos ddiwethaf mai sgerbwd Richard III oedd wedi'i ddarganfod dan faes parcio yn y ddinas.

"Ro'dd y newyddion am y darganfyddiad yn hynod gyffrous i fi oherwydd mae'n taflu goleuni newydd sbon am gerdd Guto'r Glyn sy'n sôn am Syr Rhys ap Tomos a'i ran e ym mrwydr Bosworth," meddai'r athro, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

"'Dan ni wedi bod yn gweithio ar gerddi Guto'r Glyn a'u gosod nhw ar wefan newydd ond bydd rhaid i ni ail-feddwl ychydig bach yn sgil y goleuni newydd yma gan yr archeolegwyr."

Dyw'r gerdd, meddai, ddim yn dweud mai Syr Rhys ap Tomos laddodd y brenin.

Roedd yr uchelwr o Ddinefwr wedi arwain byddin o rhwng 1,500 a 2000 o filwyr i gefnogi Harri Tudur yn y frwydr.

Image copyright AP
Image caption Y sgerbwd: 10 o anafiadau, gan gynnwys wyth ar ei benglog

Y tebygrwydd yw i Guto'r Glyn ymweld â llys Syr Rhys ap Tomos a chyfansoddi'r gerdd o fewn wythnosau i Frwydr Bosworth ym 1485.

Mae'r bardd yn awgrymu bod Syr Rhys wedi cael rhan amlwg yn ei farwolaeth:

"Cwncwerodd y Cing Harri

Y maes drwy nerth ein meistr ni:

Lladd Eingl, llaw ddiangen,

Lladd y baedd, eilliodd ei ben,

A Syr Rys mal sŷr aesawr

A'r gwayw'n eu mysg ar gnyw mawr."

"Mae e'n sôn am 'ladd y baedd,' sef Richard, ac 'eillio'i ben,'" meddai'r Athro Johnston.

"Nawr ro'n i wedi deall eillio'i ben yn weddol ffigurol - torri'i ben neu rhywbeth fel 'na.

"Ond mae un o'r anafiadau i'r benglog yma fel petae yn dangos bod rhywun wedi torri ar draws top ei ben i dorri peth o'r gwallt a mynd â darn o'r benglog gyda fe.

"Felly mae eillio yn gwbl lythrennol ac mae'n awgrymu bod Guto wedi cael yr hanes gan lygad-dyst - un o filwyr Syr Rhys ar faes Bosworth."

Dywedodd y byddai rhaid addasu cyfieithiad y gerdd i'r Saesneg. Yn lle "chopped" am "eilliodd" bydd y cyfieithiad Saesneg yn llythrennol - "shaved" yn sgil y dystiolaeth fforensig newydd sydd wedi dod i'r amlwg drwy gorff y brenin.

"Mae'r dystiolaeth wyddonol newydd yn peri i ni ddarllen y gerdd gyda llygaid newydd a gweld bod pethau yn fanylach ac yn fwy llythrennol nag o'n ni wedi tybio cyn hyn.

"Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod yr haneswyr yn Lloegr sy'n gweithio ar hyn yn cael gwybod am y dystiolaeth Gymraeg."

Mae'n debyg bod archeolegwyr Prifysgol Caerlŷr wedi gwerthfawrogi'r wybodaeth am y gerdd a'u bod nhw'n bwriadu defnyddio'r dystiolaeth wrth baratoi eu canolfan ymwelwyr newydd.

Yn y cyfamser, mae galw am roi mwy o sylw i Rhys ap Tomos fel ffigwr hanesyddol pwysig.

Mae ei fedd yn gorwedd yn Eglwys San Pedr yng nghanol Caerfyrddin.

Yno mae 'na ymgyrch i godi nawdd drwy'r loteri neu o gronfa Ewropeaidd i greu arddangosfa yn yr eglwys i ddathlu ei fywyd.

Yn ôl yr hanesydd lleol, Alun Lenny, mae Syr Rhys wedi bod yn angof yn rhy hir.

"Mae'n bosib gwneud achos taw Rhys ap Tomos oedd y Cymro mwyaf dylanwadol erioed oherwydd yr hyn ddigwyddodd yn sgil Bosworth," meddai.

"Dyw hi ddim gwahaniaeth os taw fe laddodd Richard III yn bersonol achos onibai am ei gefnogaeth e byddai Harri Tudur ddim wedi ennill Bosworth.

"Ond trwy roi'r Tuduriaid ar orsedd Lloegr, fe gethoch chi Harri'r VIII yn datgysylltu'r Eglwys, fe gethoch chi Elizabeth I yn dod yn frenhines ac yn caniatâu cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg ... hynny yw, roedd hynny wedi sicrhau dyfodol y Gymraeg.

"Felly o'dd, ro'dd ei ddylanwad e yn sylweddol."