Alun Wyn Jones yn ôl yn y garfan

  • 12 Chwefror 2013
Alun Jones
Anafodd Alyn Wyn Jones ei ysgwydd pan gollodd Cymru 26-12 i'r Ariannin ym mis Tachwedd

Bydd clo'r Gweilch Alun Wyn Jones yn ymuno â charfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Eidal yng Nghystadleuaeth y Chwe Gwlad yr wythnos nesaf.

Fe ddaeth y chwaraewr ail-reng oddi ar y fainc i helpu'r Gweilch guro Ulster nos Wener ddiwethaf.

Hwn oedd y tro cyntaf iddo chwarae ers iddo anafu ei ysgwydd pan gollodd Cymru 26-12 yn erbyn Yr Ariannin ym mis Tachwedd.

Dywedodd cyn-hyfforddwr y Gweilch a hyfforddwr presennol Cymry Llundain, Lyn Jones, ar raglen BBC Cymru Scrum V nos Sul y dylai Jones, 27 oed, ddechrau'r gêm yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain ar Chwefror 23.

Ond mae Andrew Coombs ac Ian Evans wedi chwarae'n dda yn y ddwy gêm agoriadol yn erbyn Iwerddon a Ffrainc.

Mae Jones wedi chwarae dros Gymru 67 o weithiau a chynrychioli'r Llewod dair gwaith.