'Anfantais' i gyn aelodau'r lluoedd sy'n ceisio am dŷ?

Lluoedd Prydain yn Afghanistan

Mae angen i gyrff cyhoeddus Cymru wneud mwy i gefnogi cyn aelodau o'r lluoedd arfog, yn ôl y pwyllgor dethol Seneddol ar faterion Cymreig.

Mae'n "bryder difrifol" i'r aelodau y gall pobl sydd wedi symud o un ganolfan filwrol i'r llall yn ystod eu gyrfaoedd wynebu anfantais wrth wneud cais am dai cymdeithasol, os yw'r rhestrau aros yn ffafrio pobl sy'n gallu profi bod ganddynt gysylltiadau lleol cryf.

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, dylai cynghorau ystyried rhoi blaenoriaeth i gyn aelodau o'r lluoedd arfog.

Ond clywodd ASau nad oes cysondeb yn y modd y mae'r canllawiau yn cael eu gweithredu, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gydnabod.

Mae'r pwyllgor yn annog gweinidogion Cymreig i ystyried deddfu i sicrhau bod cyn aelodau o'r lluoedd arfog yn cael blaenoriaeth.

Amcangyfrifir bod yna rhwng 200,000 a 250,000 ohonynt yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i wella gwasanaethau tai ar gyfer cyn aelodau o'r lluoedd arfog a'u teuluoedd.

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn a gwasanaethau cynghori ar dai i sicrhau bod aelodau'r lluoedd yn gallu cael cyngor ar dai cyn ac ar ôl iddynt adael y lluoedd, ac yng Nghymru maent yn cael blaenoriaeth o ran y cynllun cymorth prynu."

Problemau iechyd

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell y dylid gwarantu cyllid digonol ar gyfer gwasanaeth i gynorthwyo cyn aelodau o'r lluoedd arfog sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl.

Mae'n ychwanegu bod methiant i drosglwyddo cofnodion meddygol o'r Weinyddiaeth Amddiffyn i'r Gwasanaeth Iechyd yn gallu effeithio ar y gofal maen nhw'n ei dderbyn.

Ymysg y problemau eraill sy'n cael eu trafod, mae'r ffaith fod rhai cyn filwyr yn ei chael hi'n anodd cael gwybodaeth ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, ac anwybodaeth ymysg rhai meddygon teulu ynghylch hawliau cyn filwyr i gael blaenoriaeth o ran triniaeth NHS.