Ystyried dyfodol ffatri cydarannau ceir ym Mhowys

  • 11 Chwefror 2013
Ffatri Shimizu Industry UK yn Y Trallwng Image copyright Shimizu Industry UK
Image caption Mae'r cwmni yn cyflogi 143 o bobl yn Y Trallwng

Mae cwmni sydd wedi prynu ffatri cydrannau ceir yn y canolbarth yn ystyried dyfodol y safle sy'n cyflogi mwy na 140 o weithwyr.

Cafodd ffatri Shimizu Industry yn y Trallwng ei brynu gan gwmni Denso Manufacturing.

Mae'r safle yn cynhyrchu cydrannau ceir ar gyfer cerbydau Jaguar, Honda, Toyota, Land Rover a Caterpillar.

"Fe fyddwn yn ystyried yr opsiynau posib a'r amserlen ynghylch ail-strwythuro ein gwahanol safleoedd yn y DU," meddai Sjoerd Dijkstra o gwmni Denso

"Does dim penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â dyfodol y Y Trallwng eto."

Mae cwmni Denso gyda phresenoldeb mewn mwy na 30 o wledydd ac yn cyflogi tua 120,000 o bobl.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.