Dyfodol ansicr i 80 o weithwyr ffatri ym Mae Colwyn

  • 6 Chwefror 2013

Mae dyfodol hyd at 80 o swyddi mewn ffatri cydrannau ceir ger Bae Colwyn yn ansicr.

Clywodd staff ffatri Quinton Hazell ym Mochdre fod KPMG wedi eu penodi'n weinyddwyr y rhiant-gwmni Klarius.

Cafodd gweithwyr eu hanfon adref o'r gwaith yn gynnar ar ôl cyfarfod rhwng rheolwr lleol a swyddogion undeb.

Dywedodd John Hamilton, swyddog llawn amser undeb Unite: "Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i'r gweithwyr am nad ydyn nhw'n gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol."