Apêl am gefnogwr rygbi sydd ar goll

Ben Thompson Image copyright South Wales Police
Image caption Dywedodd yr heddlu bod Ben Thompson wedi diflannu ar ôl gwylio'r gêm rygbi ddydd Sadwrn

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth am gefnogwr rygbi sydd wedi bod mynd goll ar ôl y gêm rygbi rhwng Cymru ac Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Cafodd Ben Thompson, 34 o Hwlffordd, ei weld ddiwethaf nos Sadwrn am 6.30pm yn Lôn y Felin yng nghanol Caerdydd lle oedd wedi bod yn gwylio'r gêm.

Cerddodd i gyfeiriad Treganna a'r gred yw ei fod ar luniau teledu cylch cyfyng pan oedd wrth gyffordd Heol Lecwydd a Stryd Wellington.

Mae'r heddlu'n holi yn yr ardal o ddrws i ddrws.

Mae Mr Thompson yn 5'9" o daldra gyda gwallt byr brown a llygaid glas.

Y tro diwethaf iddo gael ei weld roedd yn gwisgo esgidiau brown, jîns ac, o bosib, siwmper gyda streipiau glas a gwyn a siaced werdd.

Dywedodd ei wraig Joanne ei bod hi'n poeni'n fawr.

Dywedodd y Prif Arolygydd Eddie Ough, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Rydyn ni'n poeni'n fwy amdano ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu fel y gallwn ni ddod o hyd iddo'n ddiogel ac yn iach."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am Mr Thompson ffonio'r heddlu ar 101.