Tân mewn bwyty: Ymchwiliad

  • 4 Chwefror 2013
Injan dân ger Bwyty'r Express
Cafodd diffoddwyr eu galw am 9:30am ddydd Llun

Cafodd diffoddwyr eu galw i ddiffodd y fflamau yn dilyn tân mewn bwyty a siop sglodion yn Aberystwyth fore Llun.

Cafodd aelodau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i Fwyty'r Express ar Ffordd Alexandra am 9:30am.

Anfonwyd dwy injan dân i'r digwyddiad a llwyddon nhw i ddiffodd y fflamau erbyn 10:00 am.

Y gred yw bod peiriant mewn gwyntyll yn yr adeilad wedi mynd ar dân ond mae'r gwasanaeth tân wedi lansio ymchwiliad ynghylch sut yn union ddechreuodd y tân.

Dywedodd perchennog y bwyty ei fod yn gobeithio y byddai'r bwyty yn ail-agor ddydd Mercher.