Alex Thomson yn drydydd yn y Vendée Globe 2012-13

Alex Thomson a'i fab Oscar Image copyright PA
Image caption Alex Thomson a'i fab Oscar yn dathlu gorffen y ras fawr am y tro cyntaf

Alex Thomson yw'r Cymro cyntaf erioed i orffen yn y tri uchaf yn ras hwylio o amgylch y byd y Vendée Globe, a dim ond y trydydd o Brydain i gyflawni'r gamp.

Thomson - a gafodd ei eni ym Mangor, Gwynedd - groesodd y llinell derfyn yn y trydydd safle yn Les Sables d'Olonne.

Cwblhaodd Thomson y cwrs mewn 80 diwrnod, 19 awr a 23 munud y tu ôl i'r enillydd Francois Gabart ac Armel Le Cleac'h o Ffrainc.

Ellen MacArthur (2001) a Mike Golding (2005) yw'r ddau arall o Brydain i orffen yn y tri uchaf.

Mae Thomson wedi methu â chwblhau'r ras yn ei ddwy ymgais flaenorol yn y ras 27,600 milltir.

Roedd ei lwyddiant yn cynnwys record Brydeinig newydd, ac enillodd wobr o £64,000 am gofnodi'r trydydd amser cyflymaf erioed yn y ras.

Dywedodd Thomson: "Y peth pwysicaf i mi oedd gorffen y ras Vendée Globe. Mae cael sefyll ar y podiwm yn anhygoel, ac mae'r amser yn amherthnasol a dweud y gwir.

"Rwyf wedi hwylio allan o'r Sianel deirgwaith, ond dim ond wedi dychwelyd unwaith, a rhaid i mi ddweud bod y ffordd adref yn hollol wych!"

Nid oes hawl gan y cystadleuwyr gael cymorth o gwbl yn y ras, a bu'n rhaid i Thomson, 38 oed, drwsio trafferthion ar ei gwch ei hun.

Bu'n rhaid iddo oedi unwaith i gynnig cymorth i gystadleuydd arall, Jean-Pierre Dick, pan aeth hwnnw i drafferthion.

Ychwanegodd Thomson: "Yr unig beth yr ydw i'n edrych ymlaen at gael gwneud nawr yw bwyta byrger caws, rhoi cwtsh i fy mab dwy-flwydd-oed Oscar a chael parti mawr heno."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.