Amgueddfa Cymru
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Diswyddiadau wrth ailstrwythuro Amgueddfa Cymru

21 Ionawr 2013 Diweddarwyd 20:04 GMT

Mae undebau sy'n cynrychioli staff Amgueddfa Cymru wedi dweud eu bod nhw'n "pryderu'n fawr" ar ôl i'r corff gyhoeddi ei fod yn ailstrwythuro ac yn cael gwared a swyddi.

Y nod ydi peidio ag amharu ar waith dyddiol y saith amgueddfa, o Sain Ffagan a'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i'r amgueddfa lechi yn Llanberis.

Bydd 35 o swyddi'n diflannu.

Ond mi fydd y newidiadau'n cael effaith ar 160 o staff, sef chwarter y cyfanswm.

Adroddiad Ellis Roberts.