Iechyd: Bygwth achos llys?

  • 21 Ionawr 2013
Ysbyty Blaenau Ffestiniog Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae pwyllgor amddiffyn ysbyty Blaenau Ffestiniog yn ystyried herio penderfyniad y bwrdd iechyd

Mae ymgyrchwyr ym Mlaenau Ffestiniog yn ystyried camau cyfreithiol ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr benderfynu cau yr ysbyty coffa.

Fe benderfynodd y bwrdd ddydd Gwener y dylid cau ysbytai Blaenau Ffestiniog, Y Fflint, Llangollen a Phrestatyn.

Mae pwyllgor amddiffyn ysbyty Blaenau Ffestiniog wedi dweud eu bod yn ystyried herio'r penderfyniad yn y llysoedd.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor amddiffyn, Geraint Vaughan Jones: "Ar ôl yr holl frwydro, yn naturiol 'dan ni'n siomedig iawn iawn yn y penderfyniad ...

'Digon o dystiolaeth'

"Ond dydy'r drws ddim wedi ei gau yn hollol eto oherwydd dwi'n gobeithio y byddwn ni rwan yn herio'r bwrdd yn gyfreithiol os medrwn ni gael achos at ei gilydd.

"Dwi'n credu bod gynnon ni ddigon o dystiolaeth fod y bwrdd wedi anwybyddu ffeithiau pwysig ac wedi lliwio pethau mewn ffordd sydd o fantais iddyn nhw yn y penderfyniad yma."

Dywedodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr Athro Merfyn Jones: "Dyna'r tro cynta' i mi glywed hynny (am bosibilrwydd her gyfreithiol).

"Wrth gwrs, mae hawl i bobl wrthwynebu mewn unrhyw ffordd - ac fe fyddwn ni'n edrych ymlaen i drafod gyda'r cyfeillion.

"'Rydw i yn bersonol wedi cael cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr o Flaenau ac o gymunedau eraill.

"Mae'r broses yma wedi bod yn hirfaith, 'dan ni wedi bod yn gwrando ac yn trafod yn ffurfiol am fisoedd.

'Penderfyniadau'

"Ond cyn hynny, mae rhai o'r cynlluniau wedi bod ar y gweill ers degawd neu fwy.

"Dyma'r amser i wneud penderfyniadau, rydyn ni wedi bod yn aros yn ddigon hir."

Yn y cyfamser, mae aelod o bwyllgor Cymreig cymdeithas meddygon y BMA wedi rhybuddio y gallai cleifion ddioddef yn sgil penderfyniad y bwrdd iechyd.

Ar y Post Cyntaf, dywedodd Dr Philip White y gallai'r penderfyniad arwain at sefyllfa lle na fydd yr ysbytai mawr yn gallu derbyn rhagor o gleifion am eu bod yn llawn.

"'Dan ni braidd yn anhapus efo'r bwriad i gwtogi ar nifer y gwlâu cyn bod yna bethau eraill wedi eu sefydlu ... lle medrwn ni ddelio efo'r cleifion yma.

"Yn barod 'dan ni'n teimlo bod yna brinder gwlâu, bod y gwlâu 'ma wedi gostwng dros y pum mlynedd ddiwetha'.

"'Dan ni'n gweld hyn o ddydd i ddydd lle 'dan ni'n cael hysbysiadau o'r ysbytai'n dweud i beidio â danfon cleifion i mewn .... am eu bod nhw'n llawn.

'Pryder'

"A 'dan ni'n clywed am yr ambiwlansys 'ma tu allan i'r ysbytai yn llawn cleifion mewn ciw yn disgwyl i bobl gael gwely. A dydy hwn ddim yn dderbyniol."

"Os oes dim gwlâu cymunedol, fe fydd pobl yn aros yn yr ysbytai mawr, ac felly bydd 'na ddim lle i bobl eraill sy'n cael eu taro'n wael, mae hyn yn bryder i ni fel meddygon teulu.

Dywedodd yr Athro Merfyn Jones fod cyfarfod y bwrdd ddydd Gwener wedi bod yn un hir a thrylwyr, gyda phob un o'r argymhellion a drafodwyd wedi eu cyflwyno gan feddyg.

Image copyright Science
Image caption Dywed y Bwrdd Iechyd fod yn rhaid newid y drefn bresennol

"Dwi'n deall pam bod pobl mewn rhai lleoliadau yn siomedig.

"Yn yr ardaloedd hynny ble mae'r ysbytai yn mynd i gael gwasanaeth llawer gwell, dydy pobl ddim o'r un farn ond dwi'n deall hynny'n iawn ac mae angen i ni drafod ymhellach gyda chyfeillion yn y cymunedau hynny.

'Sialens

"Mae natur afiechydon yn newid oherwydd bod natur y boblogaeth yn newid, mae pobl yn byw llawer yn hŷn, mae pobl yn dioddef o afiechydon cronig, sydd ddim o reidrwydd angen iddyn nhw fynd i ysbyty.

"Mae'n debyg fod yn agos i 40% o bobl sydd yn ein hysbytai ni ddim angen bod yno. Felly'r sialens i'r gwasanaeth iechyd ar gyfer y dyfodol ydy sicrhau bod gynnon ni ddarpariaeth yn y cartre' ac yn agos i'r cartre' ar gyfer cleifion.

"Mae hwnnw gynnon ni mewn rhannau o Sir Ddinbych yn barod ac mi fydd y cynllun yma yn cael ei fabwysiadu ar draws y gogledd a dyna fydd yn allweddol bwysig yn nyfodol y gwasanaeth iechyd.

"'Dan ni'n sôn yn fan hyn am dimoedd arbenigol gyda chyfrifoldebau mawr, newydd mewn ffordd.

"Meddygon teulu fydd yn arwain hyn i gyd ... 'dan ni'n sôn am ofal cynhwysfawr ar gyfer cleifion yn eu cartre'."

Dywedodd bod angen ysbytai arbenigol lle y gall pobl sy'n wirioneddol wael gael y gofal gorau, ond bod y bwrdd hefyd am sicrhau nad yw pobl yn gorfod mynd i'r ysbyty heb fod angen.

Darpariaeth leol

Mae ymgyrchwyr wedi dweud eu bod yn poeni y bydd yr ysbyty ym Mlaenau Ffestiniog yn cau heb fod darpariaeth leol mewn lle.

Un sy'n cydymdeimlo â'r ddadl hon yw'r economegydd Roy Thomas, cyn aelod o Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Dywedodd ar raglen Taro'r Post: "Dwi'n credu ein bod wedi bod yn pwysleisio'r egwyddor ein bod am symud pobl allan o ysbytai a rhoi gofal iddynt yn y gymuned.

"Y pergyl yw bod pobl yn cael eu symud, bod ysbytai'n cau, ysbytai cymunedol lleol, cyn bod darpariaeth addas ar gyfer cleifion yn y gymuned."

Straeon perthnasol