Arestio dyn 24 oed o Drecelyn ar amheuaeth o lofruddio

  • 18 Ionawr 2013
Kyle Vaughan Image copyright Gwent Police
Image caption Does neb wedi gweld Kyle Vaughan ers Rhagfyr 30 2012

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad Kyle Vaughan, 24 oed o Drecelyn, Sir Caerffili, wedi arestio dyn 24 oed o ardal Coed Duon ar amheuaeth o lofruddio.

Hefyd maen nhw wed arestio menyw 22 oed o aradl Trecelyn ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i ddiflaniad Mr Vaughan.

Cafodd dyn 62 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder ei rhyddhau ar fechnïaeth yn gynharach.

Gwrthdrawiad

Cafodd Mr Vaughan, sydd angen chwistrelliadau cyson o inswlin oherwydd clefyd siwgr, ei weld ar Ragfyr 30 yn ardal Abercarn a Rhisga.

Yn ddiweddarach y noson honno, cafwyd hyd i'w gar Peugeot 306 ar yr A467 rhwng Rhisga a Cross Keys, a dywedodd yr heddlu eu bod yn credu fod y car wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Er gwaetha' apêl genedlaethol am wybodaeth, does neb wedi gweld Mr Vaughan ers hynny, ac fe ddywedodd yr heddlu wrth y teulu ddydd Sadwrn eu bod bellach yn credu ei fod wedi marw.

Mae Mr Vaughan yn 5 troedfedd 8 modfedd o daldra ac yn denau.

Mae ganddo wallt brown byr a llygaid brown.

Roedd yn gwisgo cadwyn aur am ei wddf, ac mae ganddo datŵ ar ei fraich ac un ar ei goes dde.

Dywed Heddlu Gwent y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu 01633 838111, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.