Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali yng Nghaerfyrddin

  • 19 Ionawr 2013
Mudiad iaith
Cymdeithas 'Ein gobaith yw y bydd dros 1000 yn y sir wedi llofnodi'r adduned cyn diwedd y mis.

Mae pobl o Sir Gaerfyrddin yn ymgynnull wrth Neuadd y Sir fore Sadwrn oherwydd eu pryder am lai o siaradwyr Cymraeg yn y sir.

Yn arwain y dorf bydd teuluoedd pobl enwog y sir fel Gwynfor Evans a Ray Gravell yn ogystal â phobl amlwg o fyd gwleidyddiaeth a diwylliant.

Ymhlith y rhai sydd wedi dweud eu bod am lofnodi adduned ar y diwrnod mae Maer Caerfyrddin, Y Cynghorydd Philip Grice, ac arweinydd yr wrthblaid ar y cyngor sir, y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths.

Yn esbonio pam eu bod yn arwyddo'r adduned sy'n mynnu bod angen gweithredu dros gymunedau Cymraeg mae'r AS lleol Jonathan Edwards, yr actorion Rhian Morgan a Gwyn Elfyn, y cyn-Archdderwydd John Gwilym Jones, cyn-lywydd Merched y Wawr Glenys Thomas, Is-Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru Brian Walters a Fflur Dafydd a Tudur Dylan.

Cwymp

Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 'na gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru oherwydd canlyniadau Cyfrifiad 2011.

Yn 2001 roed 20.5% yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg ac yn 2011 roedd y ffigwr cyfatebol yn 19.0%.

Yn Sir Gaerfyrddin 43.9% sy'n gallu siarad Cymraeg tra oedd 50.3% yn 2001.

Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gâr Cymdeithas yr Iaith: "Ein gobaith yw y bydd dros fil o bobl y sir yn llofnodi'r adduned cyn diwedd y mis.

"Mae pawb wedi cael sioc gan ffigurau'r Cyfrifiad a byddwn yn dod at ein gilydd Ddydd Sadwrn i ddangos ein bod o ddifri am fynnu byw ein bywydau'n Gymraeg ac yn mynnu fod y llywodraeth a'r cyngor sir yn gweithredu strategaeth frys i gryfhau'n cymunedau Cymraeg."

Dywedodd Robin Farrar, cadeirydd y mudiad iaith: "Mae'n amser am ddewrder a syniadau newydd gan ein gwleidyddion.

'Gobaith'

"Os derbynia'r llywodraeth bod argyfwng yn wynebu'r Gymraeg sydd angen ei ddatrys ar frys, bydd gobaith.

"Credwn mai dyhead nifer cynyddol o bobl Cymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg.

"Deallwn hefyd mai sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg eu hiaith yw'r unig ffordd o wireddu'r weledigaeth honno.

"Yr hyn sydd eisiau arnom yw'r ewyllys gwleidyddol i wireddu dyheadau pobl ar lawr gwlad."

Yr wythnos hon dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai £100,000 yn fwy o grantiau ar gyfer hybu'r iaith Gymraeg yn 2013.

Bydd mudiadau sy'n hybu'r iaith yn y cymunedau yn rhannu £3.5 miliwn, gan gynnwys £852,184 ar gyfer yr Urdd, £543,000 ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a £85,310 ar gyfer papurau bro.

Eisoes mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud: "Mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymedig i hybu'r iaith Gymraeg a bydd yn parhau i weithio'n galed i sicrhau tyfiant yn yr iaith.

'Dyfodol'

"Mae canlyniadau'r Cyfrifiad ar y Gymraeg yn pwysleisio'r ffaith mai yn nwylo plant a phobl ifanc Cymru y mae dyfodol y Gymraeg.

"Fe wnaethom gyhoeddi ein strategaeth iaith, Iaith Fyw: Iaith Byw, ar Fawrth 1 2012.

"Mae wedi pwysleisio fod angen hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd, a chanolbwyntio'n benodol ar ddefnyddio'r Gymraeg o fewn y teulu; rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol; cefnogi defnyddio'r Gymraeg yn y gymuned; hybu defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle a datblygu'r defnydd o'r iaith ym maes technoleg gwybodaeth gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol."