Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn penderfynu newidiadau

Aled Roberts
Aled Roberts: 'Does dim blaenoriaeth uwch na bywyd hollol newydd'

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi rhai newidiadau i'w cynlluniau ar gyfer newid gwasanaethau yn y gogledd.

Bydd gwasanaethau Pelydr-X yn parhau yn Ysbyty Eryri Caernarfon ac Ysbyty Bryn Beryl ym Mhwllheli.

Fe fydd rhai gwasanaethau yn y gogledd ddwyrain yn cael eu canoli yn Ysbyty Cymunedol Yr Wyddgrug yn hytrach nag yn Ysbyty Glannau Dyfrdwy.

Ond does dim newid yn y cynlluniau i symud gwasanaethau gofal dwys tymor hir babanod difrifol wael i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.

680,000

Mae'r bwrdd iechyd yn darparu gwasanaethau i 680,000 o drigolion Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae BBC Cymru yn deall y bydd penaethiaid y bwrdd yn bwrw 'mlaen gyda mwyafrif y cynlluniau gafodd eu cyhoeddi mewn dogfen ymgynghorol y llynedd.

Mae'r bwrdd wedi cymeradwyo canolbwyntio'r gwasanaeth mewn 10 ysbyty yn y rhanbarth:-

  • Ysbyty Penrhos Stanley;
  • Ysbyty Gwynedd;
  • Ysbyty Alltwen;
  • Ysbyty Cymunedol Dolgellau;
  • Ysbyty Llandudno;
  • Ysbyty Glan Clwyd;
  • Ysbyty Dinbych;
  • Ysbyty Cymunedol Treffynnon;
  • Ysbyty Cymunedol Yr Wyddgrug;
  • Ysbyty Wrecsam Maelor.

Mae hynny'n golygu y bydd Ysbytai Blaenau Ffestiniog, Y Fflint a Llangollen yn cau.

Un o gynigion mwyaf dadleuol y bwrdd yw symud gwasanaethau gofal dwys babanod, y rhai sy'n cael eu cynnig yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam, dros y ffin i Ysbyty Arrowe Park.

Dadl y rheolwyr yw nad yw'r unedau presennol yn dilyn safonau Prydeinig o ran gofal.

Ond mae 1,387 o bobl wedi gwrthwynebu'r cynllun ar ddeiseb ar-lein.

Galwodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, ar y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, i wrthdroi'r penderfyniad. "Hwn yw'r penderfyniad mwya' anesboniadwy.

"Ble mae'r cyfiawnhad dros orfodi teuluoedd i deithio am bedair awr er mwyn gweld babi newydd-anedig?

'Dim blaenoriaeth uwch'

"Bydd pwysau enfawr ar gyplau fydd yn ei chael hi'n anodd iawn am fod eu babi yn ymladd am ei fywyd."

Honnodd y gallai babanod farw oherwydd y daith hir i Arrowe Park.

Protestwyr Betsi
Roedd nifer o brotestwyr yno i groesawu aelodau'r bwrdd yn Llanelwy ddydd Gwener

"Ydy hyn yn werth yr arbedion yn sgil penderfyniad y bwrdd iechyd?

"Dyw dewisiadau ym maes iechyd ddim yn hawdd am nad oes modd rhoi pris ar boen, anghyfleustra na bywyd ei hun ond pan ydyn ni'n sôn am fywyd hollol newydd, does dim blaenoriaeth uwch."

Mae cyrff proffesiynol fel Coleg Brenhinol y Bydwragedd, Coleg Brenhinol y Nyrsys a Chymdeithas Feddygol y BMA wedi galw ar y bwrdd i ailystyried y cynnig, gan ddadlau bod modd cynnal gwasanaeth i fabanod sâl iawn yn y gogledd.

"Mae'r cynllun yma yn cael ei wrthwynebu gan arbenigwyr ac eto mae'r bwrdd wedi parhau i wthio'r cynllun ymlaen," meddai Llŷr Huws Gruffydd, AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru.

"Fe fydd yn costio £1.1 miliwn y flwyddyn ac eto mae hanes Arrowe Park yn codi pryderon.

"Methodd y ddogfen ymgynghori â nodi nad ydi Arrowe Park yn bodloni canllawiau BAPM, mae ganddi gymhareb o 1 nyrs i 2 fabi tra bod y gymhariaeth yng Nglan Clwyd a Maelor o ran gofal newydd-enedigol yn 1:1."

'Gwasanaeth cynaliadwy'

Mae'r bwrdd iechyd yn mynnu fod yn rhaid iddyn nhw newid gwasanaethau er mwyn ymateb i heriau fel poblogaeth sy'n heneiddio a phrinder meddygon.

Y nod medden nhw yw sicrhau bod gwasanaethau yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Roedd ymgyrchu brwd yn erbyn y newidiadau, yn Y Fflint a Blaenau Ffestiniog, ac fe ddaeth pobl o'r Fflint i brotestio y tu allan i gyfarfod y bwrdd iechyd yn Llanelwy fore Gwener.

Bu'n rhaid atal y cyfarfod ei hun fwy nag unwaith wrth i bobl weiddi o'r oriel gyhoeddus.

Mae'r bwrdd yn mynnu y byddan nhw'n parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau fel y gall cleifion gael mân driniaethau yn nes at eu cartrefi ac y bydd y newidiadau yn golygu "gwell gofal i gleifion yn y pendraw".

Aelodau'r Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dechreuodd aelodau'r bwrdd iechyd eu trafodaethau fore Gwener

Roedd y bwrdd iechyd yn cytuno cynigion terfynol ddydd Gwener.

Fe allai'r Cyngor Iechyd Cymuned Lleol gyfeirio'r cynlluniau yn y pendraw at y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths am ddyfarniad.

Dywedodd Christine Evans, Cadeirydd y Cyngor Iechyd Cymuned lleol, wedi'r penderfyniad i ad-drefnu ysbytai cymunedol, ei bod yn dal yn bryderus o hyd.

"Ychydig iawn o drafodaeth sydd wedi bod am ochr ariannol y cynlluniau yma.

"Fe fyddwn ni yn y Cyngor Iechyd Cymuned yn edrych ar hynny eto ar frys dros y dyddiau nesaf."

Ni fydd y cynlluniau dan ystyriaeth yn effeithio ar unedau brys na gwasanaethau orthopedig a mamolaeth.

Ond mae 'na awgrym y bydd y bwrdd yn bwrw ymlaen i ystyried adrefnu'r gwasanaethau hynny rywbryd yn y dyfodol.