Eira: Rhybudd coch 'prin' mewn grym mewn rhannau o Gymru

  • 17 Ionawr 2013

Mae peiriannau allan ar hyd a lled Cymru yn graeanu ffyrdd ar ôl i rybudd coch gael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer rhannau o'r wlad.

Mae'r rhybudd am eira trwm mewn grym yn ardal Blaenau'r Cymoedd a Bannau Brycheiniog nos Iau a dydd Gwener.

Er hynny mae disgwyl eira yn y rhan fwyaf o Gymru gyda rhybudd melyn wedi ei gyhoeddi am y rhan fwyaf o Gymru.

Nos Iau fe wnaeth nifer o ysgolion - yn bennaf yn Rhondda Cynon Taf a Phowys - gyhoeddi y byddan nhw ar gau ddydd Gwener.

Gallai'r ardaloedd o fewn y rhybudd coch weld hyd at 30cm o eira a lluwchfeydd ac mae 'na rybudd i bobl beidio teithio oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol.

Mae ffyrdd mynyddig Y Rhigos, Maerdy a Bwlch yn Rhondda Cynon Taf wedi cau ers 10pm nos Iau gan fod disgwyl tywydd garw.

Dywedodd y cyngor bod disgwyl i'r sefyllfa fod yn wael iawn rhwng 3am a 9am ac y byddai cyhoeddiad pellach bore Gwener.

Does 'na drafnidiaeth ysgol yn siroedd Powys na Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener.

Dywedodd cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Derek Brockway, fod rhybudd coch "yn anarferol" a'i fod yn golygu "bod rhaid gweithredu".

Mae yna dri chategori o rybuddion, coch, oren a melyn, a'r mwyaf difrifol yw coch.

Lluwchfeydd

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai gwyntoedd cryfion o'r de-ddwyrain achosi lluwchfeydd gan achosi cryn drafferthion.

Mae disgwyl i'r eira barhau drwy fore Gwener, y prynhawn ac at gyda'r nos.

Cychwynnodd yr eira ddisgwyl yng Ngwynedd a gorllewin Cymru ddydd Iau.

Silffoedd bara gwag yn archfarchnad Tesco Aberdâr
Silffoedd bara gwag yn archfarchnad Tesco Aberdâr

Bu'r A482 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Phumsaint ar gau am gyfnod ddydd Iau gan fod rhai cerbydau yn sownd yn yr eira.

Ac roedd archfarchnadoedd yn rhedeg allan o nwyddau wrth i bobl fynd ati i brynu bwyd.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn galw ar bobl i ddefnyddio'r gwasanaeth "yn synhwyrol" a dim ond "mewn gwir angen".

"Mae cerbydau sy'n gwasanaethu ardaloedd gwledig wedi cael olwynion pwrpasol ar gyfer y gaeaf fel rhan o'n cynlluniau," eglurodd Gordon Roberts o'r gwasanaeth.

"Mae 'na gynlluniau mewn grym i gydweithio gydag asiantaethau eraill, fel y timau achub mynydd a'r llu awyr i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i'r cleifion."

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro bod rhai gwasanaethau i gleifion allanol wedi eu canslo a bod y cleifion wedi cael gwybod.

Bod yn ofalus

Mae Cyngor Ceredigion wedi penderfynu atal eu gwasanaethau casglu sbwriel ar hyd a lled y sir yr un diwrnod.

Mae Maes Awyr Caerdydd yn annog pobl i gysylltu gyda'r maes awyr i wneud yn siŵr nad oes 'na newid i'r gwasanaeth.

Ac fe ddywedodd Prifysgol Abertawe y byddai pob arholiad oedd i fod i gael eu cynnal ddydd Gwener yn cael eu gohirio tan Ionawr 21 "oherwydd risg o eira trwm".

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, y dylai pobl gymryd gofal ychwanegol yn y tywydd oer.

"Fe fydd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio 24 awr y dydd i gyd-lynu gwasanaethau i sicrhau bod ffyrdd yn cael eu glanhau a'u graeanu.

"Er bod 'na ddigon i stoc o halen, fe fyddwn i'n cynghori'r cyhoedd i gymryd sylw o'r manylion tywydd diweddara ac i deithio dim ond mewn gwir angen.

"Hoffwn annog pobl i wneud yn siwr bod teulu a chymdogion yn iawn ac i gynnig help iddyn nhw."

Dywedodd cynghorau Cymru fod ganddyn nhw dros 200,000 tunnell o raean yn barod.

Dim ond 137,000 tunnell oedd ar gael dros yr un cyfnod yn 2010 pan oedd cyfnod estynedig o dywydd rhewllyd iawn.