Canfod corff dyn yng Nghaerffili

Police officer at undergrowth at Mornington Meadows, Caerphilly Image copyright Carl Jones
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i'r ardal yng Nghaerffili ychydig wedi 4:30pm ddydd Mercher

Mae adroddiadau wedi dod i law bod corff dyn wedi cael ei ddarganfod yng Nghaerffili ddydd Mercher.

Mae'r heddlu wedi cau ardal o'r dre ger Mornington Meadows lle cafodd y corff ei ddarganfod.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw am tua 4:42pm ddydd Mercher wedi i'r corff gael ei ddarganfod yn Nol yr Eos.

Aeth swyddogion a pharafeddygon i'r safle, ond roedd y dyn wedi marw. Credir ei fod yn ei 50au.

Mae plismyn sy'n ymchwilio i'r digwyddiad yn trin y farwolaeth fel un heb esboniad tan y bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ar y corff.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda'r heddlu drwy ffonio 101.