Digwyddiadau'n dathlu Lloyd George

David Lloyd George
Bu Lloyd George yn cynrychioli etholaeth Caernarfon yn Nhŷ'r Cyffredin am 55 mlynedd

Cafodd nifer o deyrngedau eu rhoi ddydd Iau i nodi 150 mlynedd ers dyddiad geni un o wleidyddion mwyaf hanes Cymru - David Lloyd George.

Dydy'r DU ddim wedi cael Prif Weinidog Rhyddfrydol ers David Lloyd George, ac fe yw'r unig un sydd wedi siarad Cymraeg.

Am 2pm ddydd Iau, cafodd torch o flodau ei gosod yn Sgwâr y Senedd yn Llundain, a bydd gwasanaeth i ddathlu ei fywyd am 3pm yng Nghapel Santes Fair Undercroft.

Roedd Côr Meibion Gwalia yn canu, ac Elinor Bennett yn canu'r delyn yn ystod y gwasanaeth.

Gyda'r nos bydd Cymdeithas Lloyd George yn cynnal cinio yng Nghlwb Cenedlaethol y Rhyddfrydwyr, a bydd yr Arglwydd Wigley, a'r Arglwydd Morgan, cofiannydd Lloyd George, ymhlith y siaradwyr yno.

'Cyllideb y bobl'

Cafodd Lloyd George ei eni ym Manceinion ar Ionawr 17, 1863, ond bu farw ei dad pan oedd yn ifanc a symudodd y teulu i fyw gyda brawd ei fam yn Llanystumdwy.

Ar ôl cymhwyso fel cyfreithiwr, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Caernarfon - a bu'n cynrychioli'r etholaeth am 55 mlynedd hyd ei farwolaeth yn 1945.

David Lloyd George
Cyllideb Lloyd George yn 1909 arweiniodd yn y pen draw at sefydlu'r wladwriaeth les yn y DU

Fe'i penodwyd yn Ganghellor yng nghabinet Herbert Asquith yn 1908, ac roedd ei gyllideb yn 1909 yn drobwynt pwysig i lywodraeth y DU.

Roedd y gyllideb yn crybwyll yswiriant cymdeithasol am y tro cyntaf, ond fe'i gwrthodwyd gan Dŷ'r Arglwyddi.

Arweiniodd hynny at Ddeddf y Senedd yn 1911 pan gollodd Tŷ'r Arglwyddi yr hawl i wrthod cyfreithiau Tŷ'r Cyffredin.

Ei gyllideb oedd sylfaen Deddf Yswiriant Cenedlaethol 1911, rhagflaenydd y wladwriaeth les bresennol.

Ymddiswyddo

Daeth yn Brif Weinidog ym mis Rhagfyr 1916 gyda chefnogaeth arweinwyr Llafur a'r Ceidwadwyr, ac ar ddiwedd y rhyfel, fe oedd prif gynrychiolydd Prydain yng Nghynhadledd Heddwch Paris arweiniodd at gytundeb Versailles.

Lloyd George oedd hefyd yn gyfrifol am gytundeb arweiniodd at sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn 1921, ond erbyn 1922 bu'n rhan o sgandal gwerthu anrhydeddau ac fe ymddiswyddodd fel Prif Weinidog cyn diwedd y flwyddyn honno.

Arhosodd yn Nhŷ'r Cyffredin ar y meinciau cefn tan iddo gael ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi yn 1944 fel Iarll Lloyd George o Ddwyfor.

Bu farw ar Fawrth 26, 1945 yn ei gartref yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy.