Dyn ar goll: Arestio dyn arall

  • 13 Ionawr 2013
Ystafell reoli
Image caption Mae'r heddlu'n apelio at unrhywun welodd gar Kyle Vaughan i gysylltu â nhw.

Mae'r heddlu'n sy'n ymchwilio wedi i ddyn fynd ar goll wedi arestio dyn 21 oed o Drecelyn ar amheuaeth o helpu troseddwr.

Mae dyn 62 oed o Drecelyn gafodd ei arestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Ddydd Iau cafodd dyn 27 oed o ardal y Coed Duon ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn ar goll ers pythefnos, Kyle Vaughan.

Cafodd yr heddlu 36 awr ychwanegol i'w holi.

Y tro diwethaf i Mr Vaughan, 24 oed o Drecelyn, gael ei weld oedd nos Sul, Rhagfyr 30, yn ardaloedd Abercarn a'r Rhisga.

Cafwyd hyd i'w gar, Peugeot 306 arian, tua 11:45pm y noson honno ar yr A467 rhwng Rhisga a Cross Keys.

Cadwyn aur

Y gred yw bod y car wedi bod mewn damwain ac mae'r heddlu'n apelio at unrhywun welodd y cerbyd i gysylltu â nhw.

Dywedodd yr heddlu fod Mr Vaughan yn denau, yn bum troedfedd wyth modfedd o ran taldra, gyda gwallt du byr a llygaid brown.

Roedd e'n gwisgo cadwyn aur â chroes arni a chanddo datŵ ar ei fraich chwith.

Dywedodd Ditectif Uwcharolygydd Peter Jones: "Mae Kyle wedi bod ar goll ers 12 diwrnod.

"Rydym wedi chwilio amdano mewn nifer o leoliadau yn ystod yr wythnos diwethaf."

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.