Llofruddio yn Aberaman: Cyhuddo dyn 18 oed

  • 10 Ionawr 2013

Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn lleol 18 oed o lofruddio wedi i ddyn 45 oed farw yn Aberaman ger Aberdâr fore Mercher.

Y dyn 45 oed oedd Andrew David Male a bydd y dyn 18 oed gerbron Ynadon Merthyr ddydd Gwener.

Dywedodd rhieni Mr Male: "Mae'r hyn ddigwyddodd i Andrew wedi ein tristáu a'n hysgwyd ni.

"Roedd yn fab llawn gofal ac ystyriol a bydd colled ar ei ôl."

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i dŷ yn Heol Caerdydd, Aberaman, am 3.20am fore Mercher.

Cyhoeddodd parafeddygon ei fod wedi marw yn y fan a'r lle.