Protest Pont Trefechan: Cyfuno theatr a ffilm

  • 13 Ionawr 2013
Protest ar Bont Trefechan yn 2002
Image caption Yn aml mae Aberystwyth wedi chwarae rhan allweddol yn hanes y mudiad

Mae hen fysus a 10 caffi yn Aberystwyth yn rhan o ddigwyddiad y Theatr Genedlaethol wrth ddathlu 50 mlynedd ers protest Pont Trefechan.

Gan ddechrau o Ganolfan y Celfyddydau bydd perfformiad 'Y Bont' ddydd Sul, Chwefror 3 ar hyd strydoedd y dre'.

Y nod yw cyfuno theatr, technoleg ddigidol a chyfryngau cymdeithasol ac mae disgwyl i gannoedd wylio perfformiadau byw ar y stryd a darnau o ffilm.

60 myfyriwr

Catrin Dafydd, Ceri Elen, Angharad Tomos ac Arwel Gruffydd sy'n sgriptio ac Arwel Gruffydd yw cyfarwyddwr y prosiect.

Mae'r awduron wedi bod yn holi rhai o'r protestwyr gwreiddiol ac yn y cynhyrchiad mae'r actorion Lois Jones, Chris Hoskins a Rhys ap William a chast o 60 myfyriwr o Brifysgolion Aberystwyth, Morgannwg a'r Drindod Dewi Sant.

Bydd y gynulleidfa yn teithio o Ganolfan y Celfyddydau mewn nifer o fysus o'r chwedegau cyn gwylio golygfeydd byw ar bromenâd y dref.

Image caption Does gan Arwel Gruffydd ddim cof fod cynhyrchiad tebyg wedi bod yn y Gymraeg o'r blaen

Yna byddan nhw'n teithio i ganol y dref cyn gwylio golygfa y tu allan i Brif Swyddfa Bost Aberystwyth fydd yn adlewyrchu'r brotest yn 1963.

Wedyn bydd 10 grŵp yn gwylio ffilm ar sgrîn ym mhob un o'r caffis cyn cerdded at Bont Trefechan a gwylio'r diweddglo.

'Pennod allweddol'

Darlith Saunders Lewis yn 1962 sbardunodd aelodau ifanc Plaid Cymru i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Dan arweiniad dau gydysgrifennydd, E G "Teddy" Milward a John Davies, trefnodd y mudiad iaith eithas brotest yng nghanol eira Aberystwyth ar Chwefror 2, 1963.

Y nod oedd cael cymaint o bobl â phosibl i dderbyn gwŷs llys a sylweddolodd John Davies y gallen nhw dorri is-ddeddf drwy godi posteri ar eiddo cyhoeddus.

Aeth tua 30 o fyfyrwyr at Bont Trefechan i gynnal protest fyddai'n cau'r brif ffordd o gyfeiriad y de.

'Braint aruthrol'

Dywedodd Arwel Gruffydd, cyfarwyddwr y prosiect a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: "Does gen i ddim cof fod unrhyw beth fel hyn wedi bod yn y Gymraeg o'r blaen, un perfformiad proffesiynol yn unig o ddrama fawr, newydd i gofnodi pennod allweddol yn ein hanes.

"Mae'r paratoadau hyd yma wedi bod yn gyffrous tu hwnt ac mae wedi bod yn fraint aruthrol sgwrsio a thrafod gyda'r rheini oedd yno reit ar y cychwyn.

"Mynnodd criw penderfynol o bobl ifanc gychwyn traddodiad sydd wedi para 50 mlynedd, o sefyll dros ein hawliau a thorri'r gyfraith pan yn teimlo fod y llwybr cyfansoddiadol neu ddemocrataidd yn rhwystr rhag cyrraedd y nod o sicrhau dyfodol i'n hiaith".

Bydd Dylan Richards yn cyfarwyddo'r clipiau teledu fydd yn cael eu darlledu ar S4C maes o law.

Dros y 50 mlynedd mae Aberystwyth wedi chwarae rhan allweddol yn hanes y mudiad.

Yno y sefydlwyd pencadlys a phrif swyddfa'r mudiad a thros y blynyddoedd cynhaliwyd nifer o brotestiadau yn y dre dros statws i'r Gymraeg, Sianel Deledu Gymraeg, Corff Datblygu Addysg Gymraeg a Deddf Eiddo.