Dyn yn y ddalfa ar ôl i gorff gael ei ddarganfod Ddydd Nadolig

  • 31 Rhagfyr 2012
Charmaine Macmuiris
Daethpwyd o hyd i gorff Charmaine Macmuiris Ddydd Nadolig

Mae dyn 28 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw 37 oed yng Nghaerfyrddin yn y ddalfa.

Cafwyd hyd i gorff Charmaine Macmuiris, mam i dri, tua 10.50am Ddydd Nadolig mewn tŷ ym Maes yr Ysgol.

Roedd David Thomas O'Sullivan o Faes yr Ysgol, Caerfyrddin, mewn gwrandawiad blaenorol yn Llys y Goron Caerdydd.

Cafodd ei gyhuddo o lofruddio Ms Macmuiris rhwng Rhagfyr 23 a 25.

Roedd y gwrandawiad i fod yr wythnos nesa' ond rhaid i rywun ar gyhuddiad o lofruddio ymddangos yn Llys y Goron 48 o oriau wedi ei ymddangosiad cynta' yn Llys yr Ynadon.

Cadarnhaodd y diffynnydd ei enw a'i gyfeiriad.

Bydd yn Llys y Goron Abertawe ar Fawrth 14.