Marwolaeth yn Y Rhyl: Heddlu'n ymchwilio

  • 31 Rhagfyr 2012
Car heddlu
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw amser cinio ddydd Sul

Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth menyw 32 oed yn Y Rhyl.

Cafodd ambiwlans ei alw i dŷ yn ardal Kingsley Avenue amser cinio ddydd Sul.

Mae'r farwolaeth "heb esboniad" a'r crwner wedi ei hysbysu.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ac mae'r teulu wedi cael gwybod.