Gweithwyr DVLA ar streic am 24 awr

Pencadlys y DVLA yn Abertawe
Mae'r undeb yn ymgyrchu yn erbyn cau swyddfeydd

Mae gweithwyr y DVLA yn cynnal streic 24 awr ddydd Gwener oherwydd anghydfod ynglŷn â cholli swyddi a chau swyddfeydd.

Bydd aelodau o undeb y PCS mewn 39 o swyddfeydd lleol a 10 o swyddfeydd gorfodi yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn cymryd rhan yn y streic.

Yn ôl yr undeb mae swyddfeydd ym Mangor, Abertawe a Chaerdydd dan fygythiad.

'Colli swyddi'

Maen nhw wedi cyflwyno deiseb â 72,000 o enwau yn gwrthwynebu'r cynllun i Adran Drafnidiaeth Llywodraeth San Steffan.

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Gweision Sifil y PCS, Mark Serwotka, bydd dros 1,000 o bobl yn colli eu swyddi yn sgil cau'r swyddfeydd.

Ychwanegodd y bydd hefyd yn arwain at gynnydd mewn achosion o dwyll ac osgoi talu trethi cerbydau.

Mae'r DVLA wedi dweud na fyddan nhw'n gallu cadw cynnal gwasanaeth arferol oherwydd y streic gan ofyn i bobl beidio â theithio i unrhyw un o'u swyddfeydd ddydd Gwener.

Yn ôl y DVLA pe bai angen, dylai pobl defnyddio dulliau electroneg neu Swyddfa Bost.