Nathan Cleverly yn awyddus i wynebu Robin Krasniqi yng Nghaerdydd

  • 21 Rhagfyr 2012
Nathan Cleverly Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Nathan Cleverly yn awyddus i greu noson gofiadwy i chwaraeon Cymru

Mae Nathan Cleverly yn awyddus i amddiffyn ei goron WBO is-drwm y byd yn erbyn Robin Krasniqi yng Nghaerdydd.

Ei nod yw creu diwrnod mawr i chwaraeon yng Nghymru gan y bydd yr ornest ar yr un diwrnod - Mawrth 16 - ag y bydd Cymru yn cloi Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm.

Dywedodd y bocsiwr 25 oed: "Roedd yr awyrgylch y tro diwethaf i mi ymladd yng Nghaerdydd yn wych, a gobeithio y gallwn ni ail-greu hynny."

Mae hyrwyddwr Cleverly, Frank Warren, yn chwilio am leoliad ar ôl ennill yr hawl i gynnal yr ornest yn erbyn Krasniqi ddydd Mercher.

'Cyd-ddigwyddiad'

Caerdydd yw dewis cyntaf Cleverly. Yno y llwyddodd i amddiffyn ei goron yn erbyn Tommy Karpency ym mis Chwefror, ac yn gynharach y diwrnod hwnnw roedd Cymru wedi curo Lloegr yn Twickenham i gipio'r goron driphlyg.

"Mae hynny'n dipyn o gyd-ddigwyddiad, a gobeithio y gwelwn ni'r un canlyniadau'r tro yma," ychwanegodd Cleverly.

Daeth ei fuddugoliaeth ddiweddaraf yn Los Angeles wrth iddo guro Shawn Hawk yn yr wythfed rownd ym mis Tachwedd.

Ers hynny cafodd Cleverly orchymyn i wynebu her orfodol gan Krasniqi neu golli ei deitl.

Roedd y ddau i fod i wynebu ei gilydd ym mis Ebrill, ond bu'n rhaid i Cleverly dynnu nôl oherwydd salwch.

Ers iddo golli dwy o'i dair gornest gyntaf yn 2005, mae Krasniqi wedi ennill 38 gornest yn olynol.

Straeon perthnasol