'Sgandal' talu am fenthyciadau dros 30 mlynedd yn ôl

tai yn Y Drenewydd
Image caption Trosglwyddwyd y tai i'r cyngor a chymdeithas tai flynyddoedd yn ôl a chafodd nifer o'r tai eu gwerthu i ddwylo preifat

Mae trefniadau ariannol sy'n golygu bod Llywodraeth Cymru yn talu o hyd am fenthyciadau ar gyfer adeiladu tai yn Y Drenewydd 30 mlynedd yn ôl, wedi eu disgrifio fel "sgandal".

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, bod benthyciadau hir dymor yn gallu achosi problemau i lywodraethau yn y dyfodol.

Mae rhaglen Sunday Politics Wales BBC Cymru wedi darganfod ei bod yn debygol y bydd £11.6 miliwn o'r ddyled yn weddill erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresenol.

Rhaid i'r llywodraeth dalu cyfradd o fwy na 14% ar gyfran fawr o'r ddyled ac mae disgwyl i'r taliadau barhau tan 2041.

Cynyddu poblogaeth

Sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Canolbarth Cymru yn y 1960au i geisio cynyddu poblogaeth Y Drenewydd.

Fe wnaeth Bwrdd Datblygu Cymru Wledig barhau â'r gwaith yn y 1970au gan fenthyg miliynau o bunnau i adeiladu tai.

Daeth y Bwrdd Datblygu i ben a Llywodraeth Cymru sydd bellach yn gyfrifol am ad-dalu'r benthyciadau.

Dywedodd Ms Wood: "Y broblem pan rydych chi'n trefnu benthyciadau hir dymor yw bod llywodraethau'r dyfodol yn dod yn gyfrifol am gytundebau llywodraethau blaenorol.

"Mae goblygiadau'r prosiect tai yn Y Drenewydd yn sgandal llwyr - yr arian cyhoeddus sydd wedi mynd i mewn iddo, a does 'na ddim ased cyhoeddus yn y pendraw."

Trosglwyddwyd y tai i'r cyngor a chymdeithas tai flynyddoedd yn ôl a chafodd nifer o'r tai eu gwerthu i ddwylo preifat drwy'r cynllun 'Hawl i Brynu'.

'Sefyllfa ryfedd'

Dywedodd yr Aelod Cynulliad lleol, y Ceidwadwr Russell George, bod y penderfyniadau cywir wedi cael eu gwneud ar y pryd.

"Mae'n sefyllfa ryfedd iawn ble mae'r llywodraeth yn talu am fenthyciadau ar ased nad yw'n berchen bellach", meddai'r aelod dros Drefaldwyn.

"Ond os yw'r tai mewn dwylo cyhoeddus neu breifat roedd eu hangen nhw ar y pryd ac mae eu hangen nawr."

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ceisio ad-dalu'r ddyled yn gyfan gwbl ond roedd rheolau'r benthyciadau yn golygu bod yna gosb ariannol lym.

Mae'n dweud bod y cyfraddau llog yn adlewyrchu'r sefyllfa ar y pryd.

"Mae cyfraddau llog heddiw yn sylweddol is gyda chyfraddau hir dymor yn llai na 4% - i'w gymharu â'r 1970au a'r 1980au pan roedd cyfraddau hir dymor mewn ffigurau dwbwl.

"Dim ond pan fydd buddsoddiadau yn cynnig gwerth am arian yn yr hir dymor y bydd Llywodraeth Cymru yn benthyg yn y dyfodol."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.