Canran y rhai â ffydd yn gostwng yng Nghymru a Lloegr

Stryd o bobl Image copyright Getty Images
Image caption Bu cynnydd ymhlith y ganran sy'n dweud nad oes ganddyn nhw grefydd

Mae canran o'r boblogaeth sy'n dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw grefydd yn uwch yng Nghymru nac yn unrhyw un o ranbarthau Lloegr, sef 32.1%.

Ymhlith rhanbarthau Lloegr, y ganran uchaf gyda'r un ateb yng Nghyfrifiad 2011 oedd 29% yn ne orllewin Lloegr.

Yn ôl y Cyfrifiad dywedodd 14.1 miliwn yng Nghymru a Lloegr nad oedd ganddyn nhw grefydd o gwbl, ychydig yn fwy na chwarter y boblogaeth.

Bu gostyngiad o 14.3% ers 2001 yn nifer y bobl oedd yn disgrifio eu hunain fel Cristnogion yng Nghymru.

Dywedodd Peter Stokes, Rheolwr Cynllunio Ystadegol y Cyfrifiad, fod "bron traean, 32% o'r boblogaeth yng Nghymru, heb grefydd yn ôl manylion y cyfrifiad".

"Dyma'r ganran uchaf o blith holl ranbarthau Cymru a Lloegr."

'Teimlad o berthyn'

Mae 1.76 miliwn o Gymry yn galw eu hunain yn Gristnogion.

Dywedodd Meirion Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, fod y cyfrifiad yn dangos fod bron 60% o'r boblogaeth yn ystyried eu hunain yn Gristnogion.

"Fel enwad dwyieithog sy'n gwasanaethu cymunedau ledled Cymru rydym yn ymwybodol fod yna deimlad o berthyn i draddodiad Cristnogol.

"Ond hefyd rydym yn realistig ac yn gwybod bod y lefel o ymroddiad yn amrywio'n helaeth ac yn ystod y ganrif ddiwethaf mae'r Eglwys wedi ei gwthio i'r ymylon.

"Rydym ni'r Presbyteriaid a'r eglwysi eraill yn ceisio dod o hyd i ddulliau perthnasol i gyrraedd cymunedau, a hynny drwy barodrwydd i fod yn dyst ac i wasanaethu".

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru na ellid cymryd yn ganiataol fod pobl yn cyfeirio at eu hunain fel Cristnogion, fel oedd yn wir yn y gorffennol.

'Cymhleth'

"Ond mae'r rhesymau am hyn yn gymhleth.

"Heddiw mae pobl yn mynd i'r eglwys oherwydd eu bod eisiau mynd - nid er mwyn cael eu gweld yn mynd.

"Hefyd rhaid cofio nad yw'r ystadegau yn dangos y llun yn llawn pan maen fater o gred.

"Yn y misoedd diwethaf mae pobl mewn gwahanol rannau o Gymru wedi troi at eu heglwys yn dilyn digwyddiadau trasig ym Machynlleth, Trelái yng Nghaerdydd a Llanelwy.

"Mae pobl yn canfod Duw pan mae bywyd yn troi'n anodd a braint yr Eglwys yw bod yna ar eu cyfer pan fod ein hangen."

Yn ôl Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr, er taw lleiafrif oedd yn mynd i oedfaon a gweithgarwch crefyddol eraill "mae'n amlwg fod yna deyrngarwch ac ymlyniad cryf iawn o hyd tuag at Gristnogaeth yng Nghymru.

"Gan fod canlyniad y Cyfrifiad yn dangos yn glir bod mwyafrif pobl Cymru yn arddel Cristnogaeth, mae'n dangos pa mor bwysig yw hi fod crefydd yn cael llais a dylanwad ymhob agwedd ar fywyd ein cenedl."

Gwirfoddol

Roedd y cwestiwn ynglŷn â chrefydd yn y Cyfrifiad yn un gwirfoddol - gyda 7.6% heb ei ateb.

Cafodd y cwestiwn ei gyflwyno am y tro cyntaf yng Nghyfrifiad 2001.

Cristnogion oedd yr unig rai lle oedd lleihad mewn niferoedd rhwng 2001 a 2011.

Roedd 45,950 (1.5%) o'r boblogaeth yn Foslemiaid, gyda'r canrannau uchaf yng Nghaerdydd, 6.8%, a Chasnewydd, 4.7%.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod yna 9,117 o Hindwiaid, 10,434 o Bwdyddion, 2,064 o Iddewon a 2,962 o Siciaid.