Protest mewn gorsafoedd trên

  • 11 Rhagfyr 2012
Tocyn trên Image copyright PA
Image caption Bu protestiadau am brisiau tocynnau yng Nghaerdydd ac Abertawe

Cafodd protestiadau eu cynnal yng ngorsafoedd trên Caerdydd ac Abertawe yn erbyn y cynnydd ym mhris tocynnau trên a thoriadau i wasanaethau ddydd Mawrth.

Mae undebau trafnidiaeth yn dweud bod tocynnau, ar gyfartaledd, wedi cynyddu dair gwaith yn fwy na chyflogau er 2008.

Yn ôl y cwmnïau trên y Llywodraeth sy'n sy'n penderfynu ar y cynnydd ym mhrisiau tocynnau.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud bod y cynnydd yn helpu talu am fuddsoddiad yn y rheilffyrdd.

'Elw anferthol'

Roedd y protestiadau yng Nghymru ymhlith 50 mewn gorsafoedd trên ar draws y DU.

Mae cefnogwyr yr ymgyrch wedi dosbarthu cardiau Nadolig.

Mae'r neges ar y cardiau yn honni y bydd teithwyr yn gorfod dioddef "trenau wedi eu canslo, toriadau mewn staff a swyddfeydd tocynnau fydd yn cau" yn ystod 2013 tra bod y cwmnïau trên yn "gwneud elw anferthol".

Dywedodd Rob Jenks o'r undeb trafnidiaeth a theithio, TSSA: "Rydym am dynnu sylw at y codiad mewn prisiau tocynnau trên o 30% o'i gymharu â'r cynnydd, ar gyfartaledd, mewn cyflogau pobl o 11.9%

"Mae' na fwlch enfawr rhwng beth mae pobl yn gallu fforddio talu a beth mae pobl yn gorfod talu."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.