Mwy o ystadegau o Gyfrifiad 2011 i'w cyhoeddi

Gyda manylion ystadegau Cyfrifiad 2011 yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth rydym eisoes yn gwybod rhywfaint o wybodaeth am y rhai oedd yng Nghymru ar ddiwrnod y Cyfrifiad, Mawrth 27 2011.

Yn ystod yr haf fe wnaeth Y Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi'r canlynol:

  • Ar noson y cyfrifiad roedd poblogaeth Cymru yn 3.06 miliwn, sef ei phoblogaeth fwyaf erioed.
  • Roedd 1.50 miliwn o ddynion ac 1.56 miliwn o ferched yng Nghymru.
  • Tyfodd y boblogaeth 153,000 yn y 10 mlynedd ers y cyfrifiad diwethaf, gan gynyddu o 2.9 miliwn yn 2001, sef cynnydd o 5.3%. Hwn oedd y twf mwyaf yn y boblogaeth ers 1921. Yn 1911, roedd 2.4 miliwn o bobl, felly am bob pedwar o bobl yng Nghymru yn 1911, roedd pump yn 2011.
  • Er i'r gwahaniaeth rhwng genedigaethau a marwolaethau beri cynnydd bach yn y boblogaeth, roedd cyfraddau mudo yn cyfrif am dros 90% o'r cynnydd yn y boblogaeth rhwng 2001 a 2011. Mae hyn yn cynnwys mudo rhyngwladol a mudo o rannau eraill o'r DU.
  • Oedran canolrif y boblogaeth yng Nghymru oedd 41. Ar gyfer dynion, 40 oedd yr oedran canolrif ac ar gyfer merched 42 oedd yr oedran canolrif. Roedd hyn ddwy flynedd yn uwch na'r oedran canolrif o 39 ledled Cymru a Lloegr yn 2011. Yn 1911, roedd yr oedran canolrif ledled Cymru a Lloegr yn 25.
  • Roedd canran y boblogaeth yng Nghymru a oedd yn 65 oed a throsodd yr uchaf o blith unrhyw gyfrifiad sef dros 18%, cyfanswm o 563,000 o bobl. Roedd hyn yn gynnydd o 57,000 o bobl yn y categori oedran hwn ers 2001, ac yn gynnydd o 450,000 ers 1911 pan roedd 113,000 o bobl 65 oed a throsodd.
  • Roedd 25,000 o breswylwyr yng Nghymru a oedd yn 90 oed a throsodd yn 2011, o gymharu â 19,000 yn 2001 a 700 yn 1911.
  • Yn 2011, roedd 178,000 o blant o dan bump oed yng Nghymru, 11,000 yn fwy nag yn 2001.
  • Yng Nghymru, roedd dwysedd cyfartalog y boblogaeth yn 148 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr, a oedd yn is nag unrhyw ranbarth yn Lloegr. Yr awdurdod unedol mwyaf poblog oedd Caerdydd, a oedd fwy na theirgwaith yn ddwysach ei boblogaeth na'r awdurdod unedol nesaf o ran dwysedd ei boblogaeth, sef Casnewydd. Mae dwysedd poblogaeth Caerdydd yn debyg i ddwysedd poblogaeth Newcastle upon Tyne yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.
  • Roedd 1.3 miliwn o gartrefi yng Nghymru ar noson y cyfrifiad. Maint cyfartalog cartrefi oedd 2.3 o breswylwyr fesul cartref yn 2011. Yn 1911, roedd gan gartrefi yng Nghymru a Lloegr 4.3 o breswylwyr ar gyfartaledd, a oedd bron i ddwbl y cyfanswm presennol.
  • Tyfodd y boblogaeth ym mhob rhan o Gymru rhwng 2001 a 2011 heblaw am Flaenau Gwent, lle y bu dirywiad bach.
  • Yr awdurdodau unedol â'r twf canrannol mwyaf yn y boblogaeth oedd Caerdydd (12%), Sir Benfro (8%), a Phen-y-bont ar Ogwr (8%).