A470 ynghau: Lori nwy wedi troi drosodd

  • 9 Rhagfyr 2012

Mae rhan 23 milltir o hyd o'r A470 ynghau am fod lori nwy wedi troi drosodd am 1pm brynhawn Sul.

Roedd y ddamwain rhwng Llanbrynmair a Dolfach ger Machynlleth a'r lori'n cario nwy Calor.

Cafodd yr heol ei chau rhwng Caersws a Mallwyd ger Machynlleth.

Cafodd injan dân o Fachynlleth ac un o'r Drenewydd eu hanfon.