Blackburn 1-4 Caerdydd

  • 7 Rhagfyr 2012
Logo Clwb Pêl-Droed Caerdydd

Mae Caerdydd wedi agor bwlch o bedwar pwynt ar frig y Bencampwriaeth ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Blackburn Rovers ym Mharc Ewood.

Er mai Caerdydd gafodd mwyafrif y meddiant yn yr hanner cyntaf, roedd hi'n ddigon cyfartal o safbwynt cyfleoedd gyda'r ddau golwr yn brysur.

Ond yna wedi hanner awr daeth y gôl gyntaf. Croesiad gan Craig Noone a Mark Hudson oedd wrth law i benio'r bêl i gefn y rhwyd.

Cadwodd tîm Malky Mackay y fantais tan yr egwyl, ac roedden nhw ar dân ar ddechrau'r ail hanner hefyd gan orfodi Paul Robinson yn y gôl i'r tîm cartref wneud dau arbediad o ewn munud i'r ail ddechrau.

Ond yna daeth Blackburn yn ôl gyda gôl eu hunain. Colin Kazim-Richards - eilydd ar yr egwyl - greodd y cyfle i Joshua King unioni'r sgôr.

Dim ond am bedwar munud yr arhosodd hi'n gyfartal.

Daeth pas i ganol y cwrt gan Heidar Helguson, a Craig Bellamy fanteisiodd ar y cyfle i roi Caerdydd yn ôl ar y blaen.

Parhau i bwyso wnaeth Blackburn, ac fe gawson nhw fwy o ergydion yn yr ail hanner hefyd, ond daeth tro yng nghynffon y gêm bum munud cyn y chwib olaf.

Roedd Joe Mason ond wedi dod i'r cae bum munud yn gynt fel eilydd yn lle Bellamy pan gafodd gyfle i sicrhau pwyntiau llawn i Gaerdydd.

Sgoriodd Mason, ond yna syndod wrth i Bo-Kyung Kim gael un arall o fewn munud i'r gwneud hi'n bedair.

Fe all Malky Mackay ymlacio dros y penwythnos gan wybod y bydd ei dîm ar ben y domen am o leiaf wythnos arall, ac wedi gwneud lles i'w gwahaniaeth goliau wrth ennill.

TABL Y BENCAMPWRIAETH
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. CAERDYDD 21 16 44
2. Crystal Palace 20 15 40
3. Caerlŷr 20 17 36
4. Middlesbrough 20 7 35
5. Hull 20 4 35
6. Watford 20 9 33