Y gannwyll a'r ffrwydrad

  • 6 Rhagfyr 2012
Pwll Glo Llan
Roedd y seremoni ger hen fynedfa'r pwll

Mae cofeb wedi ei dadorchuddio yng Ngwaelod-y-garth ger Caerdydd er mwyn cofio 16 o ddynion a bechgyn gafodd eu lladd ar ôl ffrwydrad mewn pwll glo.

Mae'r gofeb yn cofnodi damwain ym Mhwll y Llan ac yn sgil ymgyrch 20 mlynedd gwraig leol Norma Procter wedi iddi ysgrifennu nofel am y drychineb.

Mae cyfarwyddwr hefyd wedi mynegi diddordeb mewn creu ffilm am yr hanes.

Roedd y ffrwydrad ar Ragfyr 6 yn 1875 ar ôl i un o ganhwyllau'r glowyr danio nwy oedd wedi crynhoi dan y ddaear.

Clywodd Norma Procter am y drychineb wrth ymchwilio i hanes ei bwthyn.

Goruchwyliwr y pwll glo adeg y ffrwydrad oedd Abraham Phillips. Ar ddechrau'r shifft y diwrnod hwnnw, er i ddyn tân ddweud wrtho fod yna wir berygl o nwy, daeth o dan bwysau i barhau â'r gwaith.

Roedd bygythiad i ddyfodol y gwaith ar y pryd oherwydd trafferthion ariannol.

'Tlodi'r pentref'

"Roedd 300 o ddynion a bechgyn lleol yn dibynnu ar y pwll glo am eu gwaith, a bydde Abraham Phillips wedi bod yn ymwybodol iawn o dlodi'r pentref," meddai Ms Procter.

"Ond torrodd un glöwr i mewn i hen dwnnel gloddio, gan ryddhau'r nwy.

"Cafodd Mr Philllips ei ladd gan ail ffrwydrad ar ôl mynd i mewn i geisio diffodd y tân.

Norma Procter
Clywodd Norma Procter am y drychineb wrth ymchwilio i mewn i hanes ei bwthyn yng Ngwaelod-y-garth

"Roedd ganddo chwech o blant, ond roedden nhw i gyd allan o'r bwthyn ac yn y tloty erbyn Ionawr 1876."

Cafodd rheolau diogelwch pyllau glo ledled y byd eu newid yn sgil y drychineb.

Mynnodd William Galloway, a ddaeth yn athro peirianneg cloddio ym Mhrifysgol Caerdydd, fod rhaid tampio'r aer mewn pwll glo er mwyn sicrhau na fyddai nwy methên hefyd yn tanio'r llwch glo a chreu ragor o ffrwydradau.

"Mae ei nith wedi clywed am ein gwaith ac wedi ysgrifennu rhywbeth ar gyfer y seremoni," meddai Ms Procter.

Creu ffilm

"Ein gobaith yw diogelu'r lle yma a hefyd adnewyddu'r tŷ ffan gerllaw lle oedden nhw'n cadw'r injan stêm enfawr oedd yn helpu awyru'r pwll.

"Rydym wedi cael cefnogaeth Cadw, y cyngor lleol a'r chwarel gerllaw."

Dywedodd fod y cyfarwyddwr Steven Gough am greu ffilm wedi iddo ddarllen ei nofel, The House of Abraham Phillips.

Roedd ganddo ef hefyd deulu oedd wedi byw yn y bwthyn.

Mae'n debyg i'r pwll barhau i gynhyrchu glo tan y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914.