Lawntiau bowls Powys: Gohirio penderfyniad

  • 4 Rhagfyr 2012
Clwb Bowls Llandrindod
Mae gan Glwb Bowls Llandrindod dros 150 o aelodau

Mae Cabinet Cyngor Powys wedi gohirio penderfyniad ynglŷn â chynllun i ddod i ben â chynnal a chadw lawntiau bowls a chriced yn ne'r sir.

Dydd Mawrth fe wnaeth aelodau'r cabinet ohirio penderfyniad tan fis Mawrth 2013 gan eu galluogi i ymgynghori ymhellach ynglŷn â'r cynnig.

Roedd y cynghorwyr yn trafod y cynlluniau i arbed hyd at £100,000.

Roedd un o brif glybiau bowls Cymru wedi dweud y byddai'r toriadau arfaethedig yn bygwth eu dyfodol fel lleoliad ar gyfer cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.

Fe allai Clwb Bowls Llandrindod golli £30,000 y flwyddyn.

Dywed y clwb fod yr arian yn cael ei ddefnyddio i gadw'r lawnt mewn cyflwr da.

Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn cyfrannu at gostau cynnal a chadw 10 o lawntiau bowls a thair llain griced yn ne a chanolbarth y sir ond dim un yn y gogledd.

Rhyngwladol

Yn ôl Clwb Bowls Llandrindod byddai penderfyniad o'r fath yn arwain at sefyllfa "anodd iawn" ac o bosib yn bygwth eu statws fel lleoliad rhyngwladol.

Ar hyn o bryd gyda chymorth y cyngor mae'r clwb yn cyflogi gofalwr am chwe mis i warchod y llain fowls ond fe allai hyn ddod i ben gyda'r newidiadau.

Dywed Graham Rees, Ysgrifennydd y clwb sydd â 155 o aelodau, mai nhw yw'r clwb mwyaf yng Nghymru.

Eleni cafodd Pencampwriaethau Bowlio Cymru eu cynnal yno yn ogystal â gemau prawf rhyngwladol.

"Mae Llandrindod yn llwyfan ar gyfer bowls rhyngwladol, ac mae'r dref yn elwa yn fawr.

"Mae cynnal a chadw yn golygu mwy na thorri gwair, mae'n golygu rhwystro afiechydon, a dyfrio'r lawntiau.

"Mae'n waith hanfodol.

"Bwriad y cyngor yw lleihau eu cyfraniad dros gyfnod o bedair blynedd... yn y diwedd y ni fydd yn gyfrifol am gostau cynnal a chadw."

Wedi penderfyniad yr awdurdod i ohirio'r penderfyniad tan fis Mawrth, dywedodd Mr Rees: "Rydym yn hapus bod 'na fwy o amser ar gyfer ymgynghoriad addas."

Dywed Brian Rogers, Ysgrifennydd Cymdeithas Bowls Cymru, fod cynlluniau'r cyngor yn siomedig.

'Annheg'

"Pe bai'r llain yn dirywio a ddim yn cwrdd â safon arbennig, yna bydd gwledydd eraill yn gwrthod chwarae yno.

"Yn sicr, mae'r newyddion yn fygythiad i Landrindod fel lleoliad rhyngwladol."

Dywed Mr Rogers fod 250,000 o bobl yn chwarae bowls ym Mhrydain tra bod yna 280 o glybiau yng Nghymru.

Mae yna 30 o lawntiau bowlio a 17 o gaeau criced ym Mhowys ond dim ond rhai sy'n derbyn cymorth gan y cyngor.

Dywed y cyngor fod hynny'n sefyllfa annheg.

Yn ôl cynllun y cyngor, bydd y clybiau sy'n cael arian ar hyn o bryd yn gyfrifol am gostau cynnal a chadw o fis Ebrill ymlaen.

Dywed y cyngor y byddan nhw'n rhoi grantiau am dair blynedd er mwyn cynorthwyo'r clybiau i ymgyfarwyddo gyda'r newidiadau.

"Rydym hefyd yn bwriadu cynnig hyfforddiant a pheth offer er mwyn helpu'r clybiau i fod yn gyfrifol am gynnal a chadw eu lawntiau," medd Stuart Mackintosh, pennaeth gwasanaethau cefn gwlad Cyngor Powys.