Rhyddhau dau wedi damwain angheuol

  • 4 Rhagfyr 2012

Mae dau ddyn, a gafodd eu harestio wedi damwain farwol ar yr A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd ddiwedd mis Hydref, wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Roedd dyn 21 oed o ardal Brynmawr a dyn 22 oed o ardal Blaena wedi bod yn cael eu holi ar amheuaeth o gynorthwyo gyrru peryglus.

Bu farw beiciwr modur a gyrrwr car wedi'r ddamwain ar Hydref 27 ger Clydach, rhwng Gilwern a Brynmawr yn Sir Fynwy.

Y ddau a fu farw oedd John Evans o Lyn Nedd, 49, a Phillip Bath, 29, o Nantyglo.

Mae dyn arall 24 oed o'r Fenni yn parhau ar fechnïaeth yr heddlu ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.