Abertawe i groesawu Arsenal

  • 2 Rhagfyr 2012
Cwpan yr FA

Mae'r ddau dîm o Gymru sy'n dal yng Nghwpan yr FA yn wynebu heriau gwahanol yn y drydedd rownd.

Daeth yr enwau o'r het ar gyfer y drydedd rownd ddydd Sul - dyna pryd y mae timau'r Uwchgynghrair a'r Bencampwriaeth yn ymuno â'r gystadleuaeth.

Fe fydd Caerdydd yn gorfod teithio i wynebu naill ai Barrow neu Macclesfield Town yn y drydedd rownd, gan i'r gêm wreiddiol rhwng y ddau gael ei gohirio oherwydd y tywydd.

Fe gafodd Abertawe fuddugoliaeth ardderchog yn erbyn Arsenal yn yr Uwchgynghrair ddydd Sadwrn.

Go brin felly y bydd rheolwr Arsenal yn edrych ymlaen at drydedd rownd y gwpan gan y bydd Abertawe yn croesawu'r Gunners i Stadiwm Liberty.

Bydd y gemau'n cael eu chwarae ar Ionawr y 5ed neu'r 6ed, 2013.

Y drydedd rownd yn llawn :-

Crystal Palace v Stoke

Brighton v Newcastle

Tottenham v Coventry City

Wigan v Bournemouth

Fulham v Blackpool

Aston Villa v Ipswich

Charlton v Huddersfield

Barrow neu Macclesfield v CAERDYDD

Barnsley v Burnley

Manchester City v Watford

ABERTAWE v Arsenal

Caerlŷr v Burton Albion

Millwall v Preston

Cheltenham neu Henffordd v Everton

Derby v Tranmere

Crawley v Reading

Aldershot v Rotherham neu Notts County

Middlesbrough v Harrogate neu Hastings

Accrington Stanley neu Rhydychen v Sheffield United

Southampton v Chelsea

QPR v West Brom

Peterborough v Norwich

Lincoln neu Mansfield v Lerpwl

Bolton v Sunderland

Nottingham Forest v Oldham

West Ham v Manchester United

Hull v Alfreton neu Leyton Orient

Blackburn v Bristol City

Leeds v Birmingham

Bury neu Southend v Bradford neu Brentford

Luton v Wolves

Sheffield Wednesday v MK Dons