Apêl: Cerddwr yn ddifrifol wael

  • 2 Rhagfyr 2012
Map o'r ardal

Mae'r heddlu yn apelio am dystion wedi i gerddwr gael ei anafu'n ddifrifol ar Ynys Môn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A4080 ger Tŷ Croes am 7:34pm nos Sadwrn, Rhagfyr 1.

Roedd car Rover gwyn rhan o'r digwyddiad pan fu mewn gwrthdrawiad gyda cherddwr.

Cafodd cerddwr ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, ac mae mewn cyflwr difrifol yno.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu'r Gogledd ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.