Bangor yn dal ar y brig

Uwchgynghrair Cymru

Bangor 0-1 Y Seintiau Newydd

Mae'r Seintiau Newydd a Bangor yn gyfartal ar bwyntiau ar frig Uwchgynghrair Cymru nos Sadwrn wedi i'r pencampwyr ennill yn Stadiwm The Book People yn Nantporth, ond Bangor sydd ar y brig gan eu bod wedi sgorio mwy o goliau gyda gwahaniaeth goliau hefyd yn gyfartal.

Aeth y Seintiau ar y blaen wedi 13 munud gyda gôl wych gan Chris Jones. Fe gipiodd y bêl o dan drwyn Chris Roberts cyn rhedeg ugain llath a thanio ergyd i gornel isa'r rhwyd.

Ond yn wahanol i'r ddwy ornest ddiwethaf rhwng y ddau dîm, doedd dim byd unochrog am hon.

Daeth cyfleoedd i'r ddau, a bu peth dadlau pan oedd yn ymddangos fel pe bai ergyd gan Chris Simm wedi croesi'r llinell am gôl yn yr ail hanner, ond ni chafodd ei chaniatau.

Gyda 97 munud ar y cloc fe rwydodd Chris Roberts i Fangor, ond eto ni chafodd y gôl ei chaniatau oherwydd camsefyll, a'r Seintiau gipiodd y pwyntiau.

Mae gwahaniaeth goliau'r ddau yn +21, ond mae Bangor wedi sgorio 40 o'i gymharu â 33 Y Seintiau.

Port Talbot 1-0 Prestatyn

Methodd Prestatyn fanteisio ar gyfle i godi i frig Uwchgynghrair Cymru, am ychydig oriau o leiaf, wrth iddyn nhw golli ym Mhort Talbot brynhawn Sadwrn.

Fe wnaethon nhw hynny yn bennaf gan i Carl Payne weld y cerdyn coch yn y funud gyntaf i'r ymwelwyr.

Daniel Thomas sgoriodd unig gôl y gêm yn yr hanner cyntaf i sicrhau bod Prestatyn yn aros yn yr ail safle cyn i'r Seintiau Newydd ymweld â Bangor yn y gêm hwyr.

Lido Afan 2-1 GAP Cei Connah

Roedd dwy gêm arall yn dechrau am 2:30pm, ac roedd sioc yn un wrth i'r tîm ar waelod yr adran, Lido Afan, guro Cei Connah.

Roedd y tîm cartref ddwy ar y blaen ar yr egwyl diolch i Chris Hartland a chic o'r smotyn gan Mark Jones.

Er i'r ymwelwyr gael un yn ôl gyda phedwar munud yn weddill, doedd hynny ddim yn ddigon.

Caerfyrddin 1-1 Y Bala

Dwy gic o'r smotyn benderfynnodd y canlyniad yng Nghaerfyrddin.

Daeth un gan Lee Hunt i roi'r Bala ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Gweldd Matthew Rees y cerdyn coch wedi 79 munud i Gaerfyrddin, ond er hynny llwyddodd y tîm cartref ddod yn ôl i gipio pwynt diolch i gic o'r smotyn yn y funud olaf gan Liam Thomas.

Gemau nos Wener

Airbus UK Brychdyn 2-1 Y Drenewydd

Roedd Airbus yn croesawu'r Drenewydd - tîm sydd wedi cael buddugoliaethau da oddi cartref yn erbyn Llanelli a'r Seintiau Newydd yn ddiweddar.

Ond y tîm o Frychdyn aeth ar y blaen gyda chynnig Mike Hayes wedi 18.

Cyn yr egwyl roedd hi'n gyfartal, gyda Keiran Mills-Evans yn sgorio i'r ymwelwyr, ond Airbus gafodd y triphwynt diolch i gôl Chris Budrys yn yr ail hanner.

Llanelli 0-0 Aberystwyth

Yn y gêm arall chwaraewyd nos Wener, gêm ddi-sgôr gafwyd ar Barc Stebonheath rhwng Llanelli ac Aberystwyth.

Mae'r ddau ganlyniad yn golygu bod Llanelli wedi codi uwchben Y Drenewydd, ac allan o'r ddau safle gwaelod yn y tabl.

Trefn gemau a chanlyniadau Uwchgynghrair Cymru - Tymor 2012/13
ABR AFA AIR BAL BAN CAR CCN LLA DRE PTT PRT YSN
Aberystwyth 4-2 Rhag.15 1-1 0-0 1-0 3-0 0-2 Rhag.26 0-5 Ion.5 1-4
Lido Afan Rhag.21 1-5 1-0 2-3 2-1 2-1 Ion.19 2-3 Rhag.26 2-4 1-3
Airbus 5-1 Ion.5 1-0 2-3 1-2 Rhag.26 1-1 2-1 5-0 5-0 2-1
Bala 3-2 3-2 0-2 Rhag.22 3-0 Ion.19 Rhag.15 4-4 2-0 1-2 Ion.1
Bangor 7-1 4-1 2-0 5-0 Rhag 15 2-1 1-2 3-0 Ion.19 Ion.1 Rhag.1
Caerfyrddin 2-0 1-1 2-1 1-1 0-1 2-4 Rhag.26 Ion.19 Rhag.21 2-2 0-0
Cei Connah 1-2 6-2 Ion.1 0-1 2-6 Ion.5 3-1 2-1 2-0 Rhag.14 1-3
Llanelli 0-0 3-2 Rhag.23 1-4 Ion.5 Ion.29 1-6 0-3 0-1 2-2 0-6
Drenewydd Ion.1 Rhag.15 1-7 1-1 3-2 1-2 1-3 1-1 1-1 1-4 Ion.6
Port Talbot 2-4 Ion.1 4-4 Ion.5 1-1 2-1 6-1 1-2 1-0 1-0 Rhag.15
Prestatyn 2-2 4-2 Ion.19 1-0 Rhag.26 7-1 4-1 3-1 Rhag.22 1-1 1-0
Seintiau Ion.19 2-1 1-0 Rhag.26 3-0 0-3 Rhag.22 0-0 0-1 5-0 4-1