Cronfa elusen ar gyfer dioddefwyr

  • 28 Tachwedd 2012
Llanelwy
Image caption Annibendod: Effeithiau'r llifogydd yn Llanelwy

Mae cronfa elusen wedi ei sefydlu yn Llanelwy wedi llifogydd mewn mwy na 400 o dai ac adeiladau.

Dywedodd Scottish Power fod criwiau'n ceisio adfer cyflenwadau trydan am fod dwy is-orsaf wedi cau ddydd Mawrth.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi bod yn cwrdd â theuluoedd a gwirfoddolwyr a chael golwg ar y difrod wedi i Afon Elwy orlifo ei glannau.

Talodd deyrnged i weithwyr y gwasanaethau brys.

"Wrth i newid hinsawdd effeithio ar Gymru rhaid gofyn cwestiynau.

"A yw rhai cymunedau nad oedd mewn perygl erbyn hyn yn wynebu risg?

"Sut rydyn ni'n delio â hyn?"

'Llawer o arian'

Dywedodd fod "llawer o arian" wedi ei wario ar amddiffynfeydd yn Nyffryn Clwyd ond bod rhai yn ei chael hi'n anodd delio â llifogydd difrifol.

Roedd rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd yn Rhuthun, meddai.

"Rhaid i ni adolygu ein hasesiadau risg yn wyneb y ffaith y bydd mwy o dywydd stormus."

Yn y cyfamser, mae'r heddlu wedi cadarnhau mai Margaret Hughes, 91 oed o Tai'r Felin, Llanelwy, oedd y wraig gafodd ei darganfod yn farw mewn tŷ yn y ddinas ddydd Mawrth.

Bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ddydd Iau.

Fore Mercher roedd mudiadau cymunedol yn cynnal cyfarfod brys yn Llanelwy.

Dywedodd y Maer, y Cynghorydd John Roberts, fod angen cydlynu'r ymateb i'r llifogydd.

Clirio'r llanast a chyfri'r gost

"Mae llwyth o bobl wedi cynnig help a chefnogaeth.," meddai. "Bydd modd anfon cyfraniadau ariannol i'r eglwys gadeiriol.

"Fydd bywyd ddim yn normal am wythnosau os nad misoedd.

"Mae clirio'r llanast wedi mynd yn dda ... mae'r ffyrdd wedi eu clirio ond mae clirio tai'n fater arall."

Gallai gwirfoddolwyr gofrestru yn y ganolfan frys, meddai.

Dywedodd nad oedd llifogydd mawr yn yr ardal ers y chwedegau.

'Eithriadol'

"Mi oedd yr amgylchiadau'n eithriadol a'r tywydd yn eithriadol ... efallai bod angen edrych yn fanwl ar yr amddiffynfeydd a'u cryfhau."

Mae manylion rhybuddion Asiantaeth yr Amgylchedd i gyd ar wefan yr asiantaeth

Mae'r A5 rhwng Corwen a'r Ddwyryd wedi ailagor ond roedd yr A525 rhwng Llanelwy a Rhuddlan ar gau a'r A525 yn Rhuthun rhwng Lôn Parcwr a Stad Glasdir.

Erbyn hyn mae Cyffordd 27 yr A55 wedi cau a Lôn Sarn ar gau rhwng Pengwern ac Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, Ffordd Isaf Dinbych, Llanelwy, a'r Lôn Las yng Nghorwen.

Yng Nghonwy mae'r A548 rhwng Llanrwst a Llangernyw ar gau wedi tirlithriad ac yng Ngwynedd mae'r B4354 wedi cau rhwng Y Ffor a Boduan am fod coed wedi cwympo.

Yn Wrecsam mae'r A525 wedi cau oherwydd llifogydd rhwng Marchwiel ac Eglwys-Croes.

Image caption Mae criw Sefydliad Bad Achub wedi bod yn brysur yn Llanelwy

Bydd gwasanaethau trên llawn ar arfordir y gogledd ond mae amharu ar y gwasanaeth ar Ynys Môn am fod dŵr yn cael ei bympio oddi ar y cledrau yn Y Gaerwen.

Mae llifogydd ar y lein rhwng Llanrwst a'r Blaenau a gwasanaeth bws ar gael.

Dywedodd cyflwynydd tywydd Radio Cymru, Rhian Haf: "Mi fydd hi'n sych ar y cyfan weddill y dydd, y cymylau'n clirio'n raddol a fydd 'na rywfaint o heulwen y prynhawn 'ma, yn enwedig yn y gorllewin.

'Eitha' oer'

"Mi fydd y gwynt yn llawer ysgafnach ond yn dal i chwythu o'r gogledd. Felly mi fydd hi'n dal yn eitha' oer - y tymheredd ddim uwch nag wyth neu naw selsiws.

"Yna bydd hi'n noson glir ac mi fydd hi'n rhewi dros rhan helaeth y wlad.

"Mi fydd yfory'n sych ac yn eitha' braf eto, heblaw am ambell gawod ar hyd glannau'r gorllewin, rhwng Ynys Mon a Sir Benfro ond yn dal yn oer ac yn rhewi dros nos."

Bydd Ysgol Glan Clwyd yn ailagor ddydd Iau.

Straeon perthnasol