Hwb ariannol i brosiectau yn Nefyn a'r Gelli Gandryll

  • 27 Tachwedd 2012
Marchnad Gaws Y Gelli Gandryll
Bydd llawr gwaelod y farchnad yn cael ei newid yn ôl i fod yn neuadd farchnad

Mae dyfodol hen neuadd farchnad a chapel segur wedi'u diogelu wedi buddsoddiad o dros £500,000.

Cyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) fuddsoddiad o £581,300 i sicrhau dyfodol adeiladau rhestredig Gradd II.

Mae'n cynnwys Marchnad Gaws Y Gelli Gandryll ym Mhowys ac Eglwys y Santes Fair yn Nefyn, Pen Llŷn.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu'r adeiladu er mwyn eu defnyddio gan y gymuned a chreu amgueddfa a mannau dehongli i adrodd hanes cyfoethog y ddwy dref.

Caiff pobl leol eu hannog i fod yn rhan yn y prosiectau hyn trwy amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi gwirfoddoli yn cynnwys cofnodi atgofion, sgiliau ffotograffig a'r cyfryngau cymdeithasol.

Marchnad gaws

Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol Menter Gymunedol Y Gelli Gandryll, sefydliad a ffurfiwyd gan grŵp o drigolion a phobl busnes lleol wedi derbyn £286,800 i adnewyddu'r hen neuadd farchnad gan ei hadfer i fod yn ganolbwynt i'r gymuned.

Wedi ei hadeiladu ym 1835 gan Arglwydd y Faenor, Syr Joseph Bailey, mae'r Farchnad Gaws wedi ei lleoli yng nghanol Ardal Gadwraeth Y Gelli Gandryll.

Eglwys Santes Fair, Nefyn
Mae seiliau'r eglwys rhestredig Gradd ll yn dyddio nôl i'r chweched ganrif

Bydd y grant yn ariannu trawsnewid llawr uchaf yr adeilad segur i fod yn fflat wyliau er mwyn cynhyrchu incwm tra bydd y llawr gwaelod yn cael ei newid yn ôl i fod yn neuadd farchnad.

Mae cynlluniau'n cynnwys prosiect ymchwil ffotograffig gyda disgyblion o Ysgol Uwchradd Gwernyfed.

Bydd aelodau o Glwb Ieuenctid Y Gelli Gandryll a Chlwb Ffermwyr Ifanc Llanigon yn gweithio gyda'r Grŵp Cyfryngau Gwledig i greu cyfres o ffilmiau byrion i grisialu atgofion aelodau hŷn y gymuned, fydd yn cael eu cyflwyno yn y digwyddiad ailagor.

Amgueddfa Forwrol

Mae Amgueddfa Forwrol Llŷn wedi derbyn grant o £294,500 i drawsnewid Eglwys y Santes Fair i fod yn ganolfan arddangosfa ryngweithiol ar gyfer arteffactau morwrol yr amgueddfa.

Mae seiliau'r eglwys restredig Gradd ll yn dyddio nôl i'r chweched ganrif, lle bu priordy unwaith yn sefyll gâi ei ddefnyddio fel man gorffwys ar gyfer pererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli.

Bydd tu allan yr eglwys, a ailadeiladwyd rhwng 1825 a 1827 yn cael ei adnewyddu'n llawn gyda'r tu fewn yn cael ei addasu i greu man arddangos modern.

Caiff ymwelwyr i'r amgueddfa'n ymchwilio i themâu teithiau ac anturiaethau gan gynnwys pysgota, adeiladu llongau, recordiadau hanes llafar ac amrywiaeth o eitemau o longddrylliadau ac eitemau fu'n eiddo i gapteiniaid a morwyr.

Bydd yr arddangosfa'n defnyddio amrywiaeth eang o amlgyfryngau trwy ffilm, archifau llafar a sain a thechnoleg synhwyraidd i helpu dod â hanes yn fyw ac apelio at gynulleidfa iau.

Mae'r grant yn mynd i fod yn hwb i ariannu rheolwr prosiect rhan amser fydd yn gyfrifol am ddenu grwpiau cymunedol i gymryd rhan mewn gweithgareddau.

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth CDL yng Nghymru: "Mae'r ddau adeilad yma'n drysorau treftadaeth sy'n rhan o stori ddiddorol hanes eu hardal.

"Rydyn ni wedi gwneud y buddsoddiad hwn mewn cydnabyddiaeth o'r buddiannau y bydd eu hadferiad a'u hadfywiad yn eu creu yn eu cymunedau lleol".