Dreigiau 14 - 3 Connacht

  • 23 Tachwedd 2012
Adam Jones yn herio Connacht Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Adam Jones yn herio Connacht

Dreigiau Casnewydd Gwent (8) 14

Ceisiau: Leach Ciciau cosb: Prydie 3

Connacht (3) 3

Cic gosb: Parks

Fe wnaeth y Dreigiau ddod â rhediad o saith colled yn olynol i ben trwy faeddu Connacht yn Rodney Parade.

Sgoriwyd unig gais y gêm gan y canolwr Pat Leach wedi 37 munud, a hynny tra bod dau o'r ymwelwyr, Jason Harris-Wright ac Andrew Browne, bant o'r cae ar ôl gweld y cerdyn melyn.

Cafodd capten y Dreigiau hefyd ei hel o'r maes am 10 munud, a hynny wedi 67 munud.

Llwyddodd Tom Prydie gyda thair cic gosb dros y Dreigiau.

Timau

Dreigiau: Tom Prydie, Will Harries, Pat Leach, Ashley Smith, Tonderai Chavhanga, Dan Evans, Wayne Evans, Phil Price, Hugh Gustafson, Dan Way, Adam Jones, Rob Sidoli, Lewis Evans (capt), Nic Cudd, Tom Brown.

Eilyddion: Steve Jones, Owen Evans, Nathan Buck, Ian Nimmo, Ieuan Jones, Jonathan Evans, Lewis Robling, Jack Dixon.

Connacht: Robbie Henshaw; Tiernan O'Halloran, Danie Poolman, Dave McSharry, Gavin Duffy (capt); Dan Parks, Kieran Marmion; Denis Buckley, Jason Harris-Wright, Nathan White; Michael Swift, Mick Kearney; Andrew Browne, Willie Faloon, Eoin McKeon.

Eilyddion: Ethienne Reynecke, Rodney Ah You, Ronan Loughney, Dave Gannon, Johnny O'Connor, David Moore, Miah Nikora, Darragh Leader

Caeredin 23-13 Gweilch

Caeredin (8) 23

Ceisiau: Nel Ciciau Cosb: Hunter 6

Gweilch (13) 13

Ceisiau: Morgan Trosiad: Morgan Ciciau Cosb: Morgan 2

Fe wnaeth Caeredin ddod â rhediad o saith colled yn olynol i ben trwy faeddu'r Gweilch ym Murrayfield.

Matthew Morgan sgoriodd pob un o 13 pwynt y Gweilch yn yr hanner cyntaf, gyda chais, trosiad a dwy gic gosb.

Ond methodd y Cymry ag ychwanegu i hynny yn yr ail hanner, gyda throed Gregor Hunter yn brif arf yr Albanwyr.

Roedd Willem Nel wedi sgorio cais yn yr hanner cyntaf i'r Albanwyr, tra bod Hunter wedi cosbi'r Gweilch am ddau gerdyn melyn gyda phum cic gosb yn yr ail hanner.