Tata: Ymateb i'r diswyddiadau

Gwaith Dur Port Talbot
Bydd 500 yn colli eu gwaith yn Port Talbot

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd tasglu yn cael ei sefydlu ar y cyd gyda chwmni Tata er mwyn helpu gweithwyr dur sy'n cael eu diswyddo.

Ddydd Gwener cyhoeddodd y cwmni eu bod yn cael gwared ar 900 o swyddi led led Prydain, 750 yng Nghymru.

Ond fe fydd Tata hefyd yn creu 120 o swyddi newydd yn Llanwern a 38 o swyddi newydd yn Shotton yn Sir Y Fflint.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y newyddion yn ergyd drom.

Maen nhw hefyd wedi beirniadu Llywodraeth San Steffan.

Costau

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "...mae'n amlwg fod costau ynni uchel ac ansicrwydd ynglŷn â pholisi ynni Llywodraeth San Steffan yn cael effaith ar benderfyniadau buddsoddi cwmnïau.

"Rydym wedi rhybuddio ers peth amser am yr angen i leihau costau o'r fath."

Fe wnaeth Owen Smith AS, llefarydd yr wrthblaid ar Gymru, ategu'r feirniadaeth o bolisi ynni'r llywodraeth.

Dywedodd David Jones AS, Ysgrifennydd Cymru, fod yr hinsawdd economaidd yn un i anodd i'r diwydiant.

"Bydd cyhoeddiad heddiw yn cael effaith mawr ar nifer yn y de, ond er nad yw'n gysur i'r rhai sydd wedi eu heffeithio mae'r penderfyniad masnachol yn un sydd wedi ei gymryd i sicrhau bod Tata yn parhau yn gwmni cystadleuol.

Buddsoddiad

"Mae'r newyddion fod disgwyl i Tata ail danio Ffwrnais 4 ddechrau 2013 yn newyddion da, ac felly hefyd y 120 o swyddi newydd yng ngwaith Llanwern a 65 o swyddi newydd mewn canolfan dosbarthu ar y safle."

"Mae'n rhaid i lywodraethau San Steffan a Chaerdydd ganolbwyntio ar yr economi ac rwyf wedi ymroi i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau llwyddiant yn y maes hwn."

Gofynnodd Nick Ramsey AC, llefarydd busnes y Ceidwadwyr yn y Cynulliad ynglŷn ag arian oedd wedi ei roi gan Lywodraeth Cymru i Tata.

Dywedodd fod prif weinidog Cymru Carwyn Jones wedi datgan yn Ebrill y byddai £800 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cyfleusterau.

"Mae angen i'r prif weinidog ei gwneud yn glir pa fath o sicrwydd y cafwyd gan Tata.

"Mae o wedi gwrthod egluro lle bydd y rhan fwyaf o'r buddsoddiad yn cael ei wario. Mae nawr angen iddo roi manylion o beth yn union gafodd ei addo gan y cwmni. "

Yn ôl Eluned Parrott AC, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar fuses, roedd y newyddion yn hynod drist.

"Mae'n hanfodol bod llywodraethau Llundain a Chaerdydd yn cydweithio yn dilyn y cyhoeddiad er mwyn sicrhau nad yw Cymru'n colli swyddi cynhyrchu o'r fath yn y dyfodol."

Dywedodd Alun Ffred Jones AC, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, y dylai'r diswyddiadau fod yn rhai gwirfoddol.

"Mae Llywodraeth San Steffan yn esgeuluso ardaloedd diwydiannol fel Cymru. Dylai Llywodraeth Cymru ymgymryd â'r pwerau o greu swyddi, yn hytrach na cheisio rhoi'r bai ar eraill am amgylchiadau economaidd."