QPR yn diswyddo Mark Hughes

Mark Hughes
Mark Hughes - wedi ei ddiswyddo

Mae cyn reolwr Cymru wedi cael y sac gan glwb pêl-droed QPR yn yr uwchgynghrair.

Gwnaed y cyhoeddiad gan Fwrdd Rheoli'r clwb ddydd Gwener.

Mark Bowen ac Eddie Niedzwiecki, sy'n gyn chwaraewyr rhyngwladol i Gymru, fydd wrth yr awenau ar gyfer gem QPR yn erbyn Manchester United ddydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb fod y Bwrdd Rheoli wedi cynnal nifer o gyfarfodydd dros yr wythnosau diwethaf i drafod y sefyllfa.

"Mae'r Bwrdd Rheoli wrthi ar hyn o bryd yn ceisio rhoi tîm rheoli newydd wrth y llyw cyn gynted â bod modd. "

"Hoffai'r cyfarwyddwyr ddiolch i Mark am ei ymroddiad a gwaith caled yn ystod y 10 mis y bu wrth y llyw."

Mae QPR ar waelod yr uwchgynghrair, heb ennill yr un gêm y tymor hwn.

Yr wythnos diwethaf colli oedd yr hanes yn erbyn Southampton, clwb arall ar waelodion yr uwchgynghrair.

Harry Redknapp, cyn reolwr Tottenham, yw'r ffefryn i olynu Hughes.